Cred Celfyddydau Anabledd Cymru fod gan Bobl Anabl a Phobl Byddar gyfraniad cyffrous a gwerthfawr i'w wneud i'r celfyddydau yng Nghymru.
Rydym yn ymroddedig i gydweithio gydag unigolion a mudiadau i ddathlu amrywiaeth celfyddyd a diwylliant Pobl Anabl a Phobl Byddar, a datblygu cydraddoldeb ar draws pob ffurf ar gelfyddyd.
Staff Celfyddydau Anabledd Cymru . O'r Chwith i'r Dde: Sara Mackay, Maggie Hampton a Gwennan Young.
Maggie Hampton Cyfarwyddwr
Mae Maggie yn goruchwylio cyfeiriad artistig Celfyddydau Anabledd Cymru, gan weithio yn agos gyda Sara, Gwennan a Chris. Mae hi'n gweithio gyda rhychwant eang o sefydliadau, cyrff ariannu, llywodraeth leol â'r Cynulliad, yn cynrychioli anghenion ein aelodau. Mae Maggie'n cynghori sefydliadau celfyddydol ar faterion sy'n berthnasol i anabledd a'r celfyddydau, ac mae hi'n arwain ymgynghoriaethau. Mae hi ar gael ar gyfer siarad cyhoeddus, gweithdai a seminarau.
Sara Mackay Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithredoedd
Sara sydd yn gyfrifol am ddatblygiad cyllidol Celfyddydau Anabledd Cymru, y swyddfa o ddydd i ddydd, a goruchwyliaeth gweithredol ac ariannol. Sara sy'n cyd-drefnu cynhyrchu Be' Sy' 'Mlaen, yn ogystal â'r Cynllun Aelodaeth.
Gwennan Young Rheolwr Datblygu
Pwrpas gwaith datblygu Gwennan yw i hyrwyddo a cynyddu ymrwymiad gweithredol pobl anabl yn y celfyddydau yng Nghymru. Mae Gwennan yn trefnu projectau a digwyddiadau, ac mae hi hefyd yn darparu cymorth a chyngor i artistiaid anabl.
Chris Tally Evans - Cyd-drefnydd Hyfforddiant
Mae Chris yn cyd-drefnu a datblygu ein gwasanaethau hyfforddiant yn y celfyddydau, a darparu cymorth i'n hyfforddwyr annibynnol.