Yn y Cylch Trafod hwn byddwch yn sgwrsio â phobl go iawn. Cofiwch fod yn garedig a chwrtais, yn union fel pe baech yn sgwrsio wyneb yn wyneb â pherson arall.
Postiwch negeseuon defnyddiol sy'n cynnwys gwybodaeth / cwestiynau i'r cylch trafod.
Mae dadlau iach a hwyliog yn rhywbeth i'w groesawu!
Pwrpas y Cylch Trafod yw cael trafodaeth synhwyrol ar bynciau perthnasol sy'n ymwneud ag anabledd a'r celfyddydau.
Cofiwch y gall unrhyw un ddarllen eich negeseuon, ac o ganlyniad bydd Celfyddydau Anabledd Cymru'n cymryd camau i ddileu unrhyw negeseuon y mae'n eu hystyried yn sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd. Disgwylir i drafodaethau gael eu cynnal mewn ffordd resymol.
Pan fyddwch yn ymateb i neges yn y Cylch Trafod, bydd dolen neu gysylltiad yn cael ei greu, fel na fydd rhaid i chi ailadrodd cynnwys y neges wreiddiol. Peidiwch â dyfynnu mwy na sydd raid, ac os ydych chi'n ymateb i ran yn unig o neges, yna peidiwch â chynnwys y gweddill.
Post "Minnau hefyd" yw'r math o bost a geir pan fydd rhywun yn dweud pethau y mae llawer o bobl yn cytuno â hwy. Mae pobl yn tueddu i ddyfynnu'r person (yn ormodol yn aml), gan roi "minnau hefyd" ar y diwedd. Nid oes dim o'i le mewn ychwanegu eich cefnogaeth i bostiadau rhywun arall, ond ceisiwch ychwanegu rhywbeth at y drafodaeth wrth wneud hynny.
Mae barn pobl yn rhywbeth sensitif, felly ceisiwch gadw un neu ddau o bethau mewn cof. Parchwch farn pobl eraill. Os bydd rhywun yn datgan barn sy'n groes i'ch safbwynt chi, arhoswch am funud a meddyliwch o ddifrif a oes angen i chi anfon neges i ddangos eich anghytundeb. Os byddwch yn dewis bwrw ymlaen, gwnewch hynny mewn ffordd gwrtais.
Gwnewch yn siwr fod eich barn yn berthnasol i'r drafodaeth dan sylw. Nid yw pob barn mor ddilys â'i gilydd. Mae barn wybodus yn fwy dilys na barn anwybodus. Os ydych chi am ddweud rhywbeth, gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod rhywbeth am yr hyn yr ydych yn ei ddweud. Mae rhai pethau'n gwbl oddrychol ac ni fydd dadlau yn eu cylch yn cyflawni unrhyw beth; gall y math hwn o ddadlau fod yn gwbl ddigyfeiriad a gall arwain at ffraeo tanbaid. Meddyliwch sut y gallwch gyfrannu at drafodaeth ddiddorol a defnyddiol.
Rydym i gyd yn greaduriaid emosiynol, ac mae'n rhy hawdd yn aml i adweithio i bostiad trwy sarhau neu fychanu. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Dylai trafodaethau fod yn gwrtais, neu efallai y bydd rhaid i ni ymyrryd a chymryd camau priodol.
Mae gan y Cylch Trafod ei ganllawiau ei hun, ac os bydd y rhain yn cael eu torri, gallwn gymryd camau i ddatrys y mater. Ni fyddwn yn ymyrryd ar unwaith ond bai bod yr angen i wneud hynny'n amlwg.
Ni chaniateir iaith anweddus a chableddus.
Cofiwch y dylai'ch eitemau "Newyddion" (e.e. gwybodaeth am gyfarfodydd, digwyddiadau ayb.) gael eu postio yn adran Be' Sy' 'Mlaen y wefan yn hytrach na'r Cylch Trafod.
Peidiwch â phostio manylion personol fel rhifau ffôn neu gyfeiriadau preifat os nad ydych am i bawb ar y we eu gweld!
Pwrpas y Cylch Trafod yw cynnal trafodaethau adeiladol a synhwyrol ar bynciau sy'n berthnasol i anabledd a'r celfyddydau. Bydd unrhyw sylwadau a allai fod yn enllibus neu sarhaus yn cael eu dileu.
Dylid anfon sylwadau ar ddefnyddio a chynnwys y Cylch Trafod at Maggie Hampton, Cyfarwyddwraig Celfyddydau Anabledd Cymru yn y lle cyntaf.