Cafodd y taflenni gwybodaeth isod eu datblygu gan Gelfyddydau Anabledd Cymru. Byddwn yn eu diweddaru a'u datblygu dros amser, felly cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw syniadau. Mae'r taflenni gwybodaeth ar gael hefyd am ddim drwy'r post.
Mae lot fawr o wybodaeth ar gael hefyd yn ein cylchgrawn, Be' Sy' 'Mlaen, sy'n cael ei gynhyrchu pob dau fis. Mae Be' Sy' 'Mlaen ar gael i'n aelodau drwy'r post neu ebost, neu gallwch ei ddarllen ar y wefan hon.
Gall sefydliadau celfyddydol neu unigolion anabl farchnata eu gwaith am ddim trwy ddanfon eitemau atom i gael eu cynnwys yn Be' Sy' 'Mlaen. Cysylltwch â swyddfa Celfyddydau Anabledd Cymru am fwy o fanylion.
Gall Celfyddydau Anabledd Cymru eich cynghori ar amrywiaeth eang o faterion sy'n gysylltiedig ag anabledd a'r celfyddydau, yn cynnwys:
Nid ydym yn codi tâl am gyngor cyffredinol dros ebost, y ffôn, ffacs neu drwy'r post.
Mae'n bosib y gallwn drefnu i rywun o Gelfyddydau Anabledd Cymru ymweld a'ch sefydliad, neu efallai gallwn drefnu cyfarfod yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Cysyllwch â ni yn swyddfa Celfyddydau Anabledd Cymru er mwyn trefnu cyfarfod.
Os hoffech ymateb fwy manwl, yn cynnwys adroddiad ysgrifenedig, rydym yn darparu gwasanaeth yngynghorol. Mae ffî ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Manylion am ein gwasanaeth yngynghorol
I sefydliadau sydd am fod yn flaengar o rhan bod yn hygyrch ac yn gynhwysol, gallwn ddarparu Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd Celfyddydol Penodol i'ch staff a'ch bwrdd.