Blwyddyn o brojectau a phartneriaethau cyffrous amrywiol. Dyma rai enghreifftiau o'r gwaith a gyflawnwyd.
Lawnsio "Face On" a CDRom Gwir a Grymus
Casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith am Gelfyddydau Anabledd yng Ngweriniaeth Iwerddon wedi’i olygu gan Kaite O’Reilly yw Face On. Lansiwyd y llyfr yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Chapter, mewn digwyddiad a drefnwyd ar y cyd gan Gelfyddydau Anabledd Cymru ac Arts and Disability Ireland. Yn y digwyddiad hwn hefyd lansiwyd CD ROM Gwir a Grymus gan Gelfyddydau Anabledd Cymru. Roedd darlleniadau gan rhai o'r awduron, yn ogystal a gweithdy ysgrifennu.
Gweithdy ysgrifennu
Cynhaliodd Kaite O’Reilly weithdy hanner diwrnod ar gyfer awduron anabl yn y Sbectrwm, yng Nghaerdydd. Roedd y sesiwn hwn, a oedd yn canolbwyntio ar ysgrifennu o safbwynt pobl anabl, yn un poblogaidd iawn ac roedd pawb eisiau mwy ar y diwedd!
Penwythnos datblygu cwmni’r Ysgol Ddrama Anarferol
Penwythnos i roi cyfle i un ar ddeg actor anabl ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau.
Antholeg Face On
CD Rom Gwir a Grymus
Penwythnos datblygu Ysgol Ddrama Anarferol
Llun arall o'r penwythnos datblygu