Blwyddyn arall yn llawn projectau a phartneriaethau diddorol. Dyma rai o'r uchafbwyntiau...
Oska Bright yn Undod
Daethom a Oska Bright, yr wyl ffilm gyntaf i gael ei chreu gan ac ar gyfer pobl ag anableddau dysgu, i Undod yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac i Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth i redeg gweithdai ac i arddangos detholiad gwych o ffilmiau byrion.
Ysgol Ddrama Anarferol yn DaDa Fest
Bu Ysgol Ddrama Anarferol Celfyddydau Anabledd Cymru yn cymryd rhan yn DaDa Fest, gwyl gelfyddydau anabledd ryngwladol a drefnwyd gan Fforwm Celfyddydau Anabledd Gogledd Orllewin Lloegr fel rhan o ddathliadau Dinas Diwylliant 2008 Lerpwl.
‘Peeling’ yn The Gate
Buom yn gweithio mewn partneriaeth gyda Kaite O’Reilly i gyflwyno darlleniad wedi’i ymarfer o’i drama wych, ‘Peeling’. Roedd y noson yn llwyddiant ysgubol - mynychodd dros 100 o bobl.
Gweithdai Amser i Ddisgleirio
Fel rhan o hyfforddiant DAC ar gyfer perfformwyr anabl cynhaliwyd cyfres o weithdai perfformio yn ystod Gwanwyn 09 yn Abertawe, Caernarfon a Llandrindod.
Oska Bright
Mwy o luniau Oska Bright
Yr Ysgol Ddrama Anarferol yn DaDaFest
Ein taflen i DaDaFest
Ymarfer Peeling
Llun arall o Peeling
Logo Amser i Ddisgleirio