
Ar ddydd Gwener 14eg o Hydref 2005 yng nghanolfan celfyddydau newydd Casnewydd, Glan yr Afon, daeth rhai o berfformwyr Byddar gorau'r byd i arwain Dosbarthiadau Meistr a cymeryd rhan mewn noson o adloniant di-ail - Cabare Wedi Nos.
Roeddem yn falch iawn i groesawu Ramesh Meyyappan o Singapôr, a gafodd y clôd canlynol yn y Liverpool Daily Post:
"a tremendous performer, part Chaplin, part Mr Bean part Marcel Marceau. Above all, it is very funny, Meyyappan's humorous expressions a constant delight..."
Roedd y perfformiadau arall yn cynnwys caneuon wedi'u arwyddo (signed song) gyda Tyron Woolfe o Brydain - dehongliad anhygoel o gerddoriaeth trwy iaith arwyddion, a barddoniaeth pwerus gan John Wilson. Roedd y noson yn gyfle hefyd i gynnwys talent newydd o Gymru - y dawnsiwr Barry J Roberts.
Gwerthodd pob tocyn, ac roedd yr ymateb yn ffantastig.

Maggie a Jeff yn croesawu'r gynulleidfa.

John Wilson yn perfformio ei farddoniaeth pwerus.

Y perfformiwr Cymreig, Barry J Roberts

Tyron yn perfformio cân wedi'i arwyddo o West Side Story.

Mae perfformiad Ramesh yn gwneud i'r gynulleidfa chwerthin.

Roedd hi'n noson brysur iawn ar ôl gwerhu pob tocyn.

Yn gynharach yn y diwrnod rhedodd Ramesh weithdy perfformio.

Rhedodd John Wilson weithdy barddoniaeth Iaith Arwyddion Prydeinig.