Ar ddydd Llun 15fed o Ragfyr, 2003, fe wnaeth Celfyddydau Anabledd Cymru a
Chlymblaid Pobl Anabl Caerdydd a'r Fro drefnu noson o gerddoriaeth a chomedi yng nghwmni rhai o'n perfformwyr anabl mwyaf disglair
yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter yng Nghaerdydd.
Roedd y noson yn gyfle i ddathlu dau benblwydd - ADW yn 21 a'r Clymblaid yn 10, a cafwydd perfformiadau gan Chris Tally Evans, Hassan Erraji, Mat Fraser, Julie McNamara, Tanjy, Maggie Hampton, a ffilm fer gan Robert Pleasance.
Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i Chapter - gobeithiwn eich bod wedi cael noson dda!
Cafodd CABARE! ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Clymblaid Pobl Anabl Caerdydd a'r Fro
Cafodd y ffotograffau i gyd eu cymeryd gan Dave Daggers.
Chris Tally Evans, ein "MC" ar gyfer y noson, yn croesawu pawb at Cabare!
Elis a Bev - Cyd-Gadeiryddion Celfyddydau Anabledd Cymru, yn dweud helo i'r gynulleidfa.
Roedden ni'n falch bod cymaint o bobl wedi dod!
Tanjy oedd perfformwraig cerddorol cyntaf y noson.
Dyma ein Maggie ni yn perfformio cân wedi'i arwyddo (signed song).
Gwennan o ADW a Jon Luxton (ein cyn-Gadeirydd) yn chwythu'r canhwyllau ar y deisen penblwydd.
Dechreuodd yr ail hanner gyda perfformiad anhygoed gan Hassan Erraji.
Roedd y gynulleidfa yn hoff iawn o berfformiad doniol Julie McNamara.
Roedd Mat Fraser yn ddigywilydd ac yn anweddus - dyna ffordd 'da ni'n ei hoffi fe!
Rydyn ni'n credu bod y gynulleidfa wedi mwynhau. Oeddech chi yno? Os felly, gadewch i ni wybod os hoffech chi fwy!