2006: Cysylltu a Chreu
Cyfres o ddigwyddiadau a oedd yn ein galluogi i ddod â mathau o gelfyddydau i bobl anabl ac artistiaid adnabyddus i Gymru o Loegr, Awstralia a'r Unol Daleithiau. Mae Cysylltu a Chreu wedi creu cyfleoedd i artistiaid anabl gael dod at ei gilydd, i roi cynnig ar bethau newydd a dechrau gwneud synnwyr o'r rhwydwaith celfyddydau anabledd yng Nghymru.
Cynhaliwyd y dyddiau Cysylltu a Chreu yn:-
- Llandrindod - Y Pafiliwn. Gweithdy animeiddio ffilm yng ngofal arweinwyr gweithdy o Ŵyl Ffilm Oska Bright (cwmni ffilm sy'n cael ei arwain gan bobl ag Anabledd Dysgu), a gweithdy drama o dan arweiniad Julie McNamara, comediwraig ac artist perfformio. Ac yn y nos: Gŵyl Ffilm Oska Bright.
- Abertawe - Canolfan Dylan Thomas. Gweithdy byrfyfyr o dan arweiniad yr actor Mat Fraser, a gweithdy Ysgrifennu Creadigol o dan arweiniad Lois Keith.
- Caerdydd - Canolfan Gelfyddydau Chapter. Gweithdy byrfyfyr o dan arweiniad yr actor Mat Fraser, a gweithdy Ysgrifennu Creadigol o dan arweiniad Lois Keith. Cafodd y cyfranogwyr gyfle'n ddiweddarach i weld sioe Mat Fraser "Thalidomide, The Musical" yn y Chapter.
- Caerdydd - The Glee Club. Gweithdy theatr i bobl fyddar gan ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain o dan arweiniad Rob Roy Farmer, comediwr Byddar o Awstralia. Ac yn y nos: the Rob Roy Show - perfformiad Theatr fyddar un dyn.
- Caerdydd - Canolfan Mileniwm Cymru - "Un Diwrnod Mawr". Gweithdy adrodd storïau gyda David Roche o America, a gweithdy caneuon wedi arwyddo gyda Caroline Parker. Ac yn y nos, sioe un dyn David Roche "Church of 80% Sincerity" wedi'i dilyn gan sioe un fenyw Caroline Parker "Signs of a Diva".
Cafodd pob un o'r digwyddiadau yng Nghaerdydd a Llandrindod eu hariannu gan gynllun WEFO Cynhwysiant trwy'r Celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru. Noddwyd y digwyddiadau yn Abertawe gan Sefydliad D'Oyly Carte.
Oriel Ffotograffau
Ffotograffau o'r gweithdai gan Gwennan Young, a ffotograffau o Ganolfan Mileniwm Cymru gan Dave Daggers.
Gweithdy perfformio Mat Fraser yn Abertawe.
Lois Keith yn arwain gweithdy ysgrifennu creadigol yn Abertawe.
Gweithdy perfformio Julie McNamara yn Llandrindod.
Roedd sioe ardderchog Caroline Parker yn daith emosiynol, gyda chymysgedd o ganeuon hwyliog a thyner.
Roedd sioe David Roche yn daith emosiynol hefyd, yn ein gwneud i chwerthin ac i feddwl.