Neidio i'r prif destunn
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Projectau a Phartneriaethau >> Get it On

2004: Get it On

Celfyddydau Anabledd CymruGET IT ON - project celfyddydau anabledd yn cael ei redeg gan Chris Tally Evans mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru. Roedd cyfanswm o bedwar diwrnod, dau yng Nghaerdydd a dau yn Abertawe, yn ystod mis Mai 2004.

Get Experience

Dau weithdy wedi'u cynllunio yn arbennig ar gyfer pobl i ddod, gweld a dysgu am gelfyddydau anabledd. Arweiniodd Chris a Maggie gyfres o weithdai adrodd storïau, a datblygodd y darnau hyn i fewn i berfformiadau.

Get It Together

Dau weithdy i berfformwyr, awduron, cerddorion a gwneuthurwyr ffilm anabl profiadol yn byw yng Nghymru. Pwrpas y gweithdai oedd i rannu gwaith ac wedyn cydweithio i greu darnau o waith newydd cyffrous.

Dyma beth ddywedodd pobl am Get It On:

"Fe wnes i fwynhau cwrdd â phobl arall, a llwyddo i ysgrifennu a pherfformio rhywbeth o fewn dimond cwpl o oriau"

"roedd e'n lot yn fwy nag o'n i'n disgwyl; roedd e'n fendigedig!"

"Nes i fwynhau'r cyfle i brofi a dysgu am waith pobl arall; prin y mae hyn yn digwydd."

"Roedd pawb yn canolbwyntio ac roedd eu gwaith o safon uchel, fel yr oeddwn i'n disgwyl."

"Ro'n i'n teimlo fy mod i wedi cael fy adnerthu ac fy ysbrydoli"

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css