Neidio i'r prif destunn
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Projectau a Phartneriaethau >> Lansio Celfyddydau Anabledd Cymru ar ei newydd wedd

2004: Lansio Celfyddydau Anabledd Cymru ar ei newydd wedd

Celfyddydau Anabledd CymruAr yr 20fed o Hydref 2004 yn Theatr y Grand, Abertawe, roeddem yn falch iawn i lansio Celfyddydau Anabledd Cymru ar ei newydd wedd.

Bydd Celfyddydau Anabledd Cymru yn cario mlaen gyda'r un gwaith, gyda'r un egwyddorion, a'r un ymroddiad i wneud y celfyddydau yng Nghymru yn hygyrch i bawb. Fe fyddwn yn gweithio yn galetach gydag unigolion a sefydliadau celfyddydol i sicrhau mai pobl anabl a phobl Byddar sy'n arwain y ffordd.

Yn ystod y noson cawsom berfformiadau gan y pen cerddor Hassan Erraji a'r digrifwrLaurence Clark. Cawsom arwerthiant o waith celf hefyd er mwyn ceisio codi arian. Gwerthwyd ddarnau gan artistiaid fel Kyffin Williams a Beverley Bell-Hughes.

Rodd y noson yn boblogaidd iawn - doedd dim tocyn ar ôl, a daeth nifer fawr o'n aelodau a'u ffrindiau a'u teuluoedd i ddathlu.

Cynhaliwyd noson hefyd ar y 10fed o Fai 2005 yng Nghanolfan Cynadleddau Gogledd Cymru i ddathlu'r enw newydd ac hefyd i lansio ein gwefan cyffrous newydd. Roedd hi'n noson llwyddianus, gyda pherfformiad cerddorol Susan Hedges, a chomedi gyda The Nasty Girls. Cyfle i bobl anabl yng ngogledd Cymru i ddod at ei gilydd.

Oriel Ffotograffau

Ffotograffau gan Judith Roeder, Rob MacDonald a Gwennan Young.

Noson brysur yn Abertawe

Roedd hi'n noson brysur yn Theatr y Grand yn Abertawe..

Hassan Erraji

Roedd perfformiad Hassan Erraji yn ein cael i gyd i gloncio'n traed!

Laurence Clark

Roedd sioe Laurence Clark yn ddiflewyn ar dafod, ac yn ofnadwy o ddigrif.

Y Gynulleidfa yn Abertawe

Roedd y gynulleidfa yn cael amser da!

Y Gynulleidfa yn Llandudno

Roeddem ni mor falch i weld cymaint o ffrindiau newydd yng ngogledd Cymru.

Susan Hedges yn Llandudno

Perfformiodd Susan Hedges ddetholiad o'i chaneuon yn Llandudno.

The Nasty Girls

Roedd y Nasty Girls mor ddigywilydd!

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css