Yr Ysgol Ddrama Anarferol oedd cwrs actio preswyl cyntaf Celfyddydau Anabledd Cymru i actorion anabl talentog.
"I mi, roedd y sioe'n brofiad gwych, rhyfeddol na fyddwn wedi ei golli am y byd. Ar adegau roeddwn wedi fy nghyfareddu, yn llawn ofn, yn rhwystredig, cyffrous, ar ben fy nigon, yn drist, wedi ymlâdd, yn afieithus (nes fy mod yn barod i neidio i'r awyr). Chwarddais nes oeddwn yn crio, a chrio nes oeddwn yn chwerthin eto. Ond dyna wyf yn ei hoffi - rhywbeth i roi fy nghorff, fy ymennydd a fy nghalon ynddo."
Lyn Street, Aelod o'r Cwmni
Yn dilyn proses o recriwtio a llunio rhestr fer yn Ebrill 2006, cynigiwyd lle ar y cwrs i saith dyn a phump o ferched. Ym Mehefin 2006, treuliodd yr actorion 11 diwrnod yng Nghanolfan Wledig Clynfyw yn Sir Benfro, gan ddyfeisio ac ymarfer sioe gabaret a oedd yn deillio o'u syniadau eu hunain. Ar ddiwedd y cwrs, perfformiodd y cwmni o flaen theatr orlawn yn Theatr Mwldan, Aberteifi. Ym mis Ionawr 2007 cafodd yr "Unusual Stage Show" ei pherfformio eto yn Theatr y Grand, Abertawe - ac roedd pob tocyn wedi'i werthu.
Bu'r Ysgol Ddrama Anarferol yn llwyddiant ysgubol - y ddarpariaeth hyfforddiant theatr gyntaf i bobl anabl yng Nghymru. Yr ydym yn bwriadu datblygu'r gwaith, ac mae'r gwaith codi arian yn mynd yn ei flaen.
Actorion: Leila Bebb, Lee Ellery, Kay Jenkins, Andrew Hubbard, Jon Luxton, Martin Maclean, Ian Rees, Andrew Rinvolucri, Lyn Street, Sherrall Morris, David Woodham, Carys Williams.
Ariannwyd yr Ysgol Ddrama Anarferol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm.
Ffotograffau gan Keith Morris.
Roedd cwympo mas Jon Luxton ac Andrew Hubbard mor ddoniol!
Y "Cruise" - David Woodham, Kay Jenkins a Lee Ellery yn cael y gynulleidfa yn chwerthin.
Y "Nymphs" - Lyn Street, Carys Williams a Leila Bebb.
Dylanwad y Dinner Party oedd profiadau Martin Maclean fel person Byddar.
Y cwmni yn ymarfer diweddglo lliwgar y sioe.