Neidio i'r prif destunn
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Projectau a Phartneriaethau

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn trefnu projectau yn rheolaidd er mwyn darparu cyfleoedd i bobl anabl a phobl Byddar i ddatblygu eu sgiliau celfyddydol. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau arall ar brojectau sy'n berthnasol i'r celfyddydau.

Dyma enghreifftiau o'n gwaith diweddar. Cliciwch ar y dolenni i gael mwy o fanylion.

Lawnsio Celfyddydau Anabledd Cymru2004: Lawnsio Celfyddydau Anabledd Cymru ar ei newydd wedd

Roeddem yn falch iawn i lansio Celfyddydau Anabledd Cymru ar ei newydd wedd ar yr 20fed o Hydref 2004 yn Theatr y Grand Abertawe.

Get it On2004: "Get it On"

Project pedwar diwrnod o hyd a gafodd ei redeg gan Chris Tally Evans mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru.

Geiriau Gwir, a Gwir a Grymus2003/04: Geiriau Gwir, a Gwir a Grymus

Project ysgrifennu a arweiniodd at gyhoeddi Gwir a Grymus: Ysgrifennu gan Bobl Anabl yng Nghymru, a olygwyd gan Allan Sutherland ac Elin ap Hywel.

Cabare!2003: Cabare!

Noson o gerddoriaeth a chomedi yng nghwmni rhai o'n perfformwyr anabl mwyaf disglair. Roedd y noson yn dathlu ein penblwydd yn 21ain, a phenblwydd Clymblaid Pobl Anabl Caerdydd a'r Fro yn 10eg.

Cardiau Post cADWyn2001/03: Cardiau Post cADWyn

Cystadleuaeth cardiau post ac arddangosfa deithiol i artistiaid gweledol a chrefftwyr anabl wedi'u sefydlu yng Nghymru.

Getting Noticed2002/03: Getting Noticed

Arddangosfa deithiol o bosteri celfyddydau anabledd.

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css