Neidio i'r prif destunn
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Hyfforddiant

Celfyddydau Anabledd Cymru yw'r unig sefydliad yng Nghymru sy'n darparu Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd (HCA) yn benodol i ddarparwyr celfyddydol.

Rydym wedi bod yn arwain HCA yng Nghymru ers 1993. Yn awr mae gennym dîm o hyfforddwyr cydraddoldeb. Mae'nt i gyd yn bobl anabl sy'n gysylltiedig â'r celfyddydau.

Fe fydd sefydliadau a hyfforddwyd yn gallu:

Mae'r hyfforddiant yn trafod y materion canlynol:

Hyfforddiant arall a roddir gan Gelfyddydau Anabledd Cymru:

Dyfeisir y cyrsiau hyfforddiant hyn yn benodol ar gyfer y sefydliad sy'n eu noddi. Cysylltwch â ni am fanylion pellach.

Mae ein cleientiaid wedi cynnwys:

Dyma beth sydd gan bobl sydd wedi mynychu ein cyrsiau HCA i'w ddweud:

"Yn ogystal â bod yn addysgiadol, roedd y sesiwn hefyd yn gyfeillgar ac yn gynhwysol. Diolch."

"Roedd y diffiniad o anabledd wedi cael gwared o fy nghamdybiaethau."

"Bydd deall materion anabledd yn well yn fy ngalluogi i ddefnyddio fy syniadau yn ymarferol yn fy swydd."

"Sesiwn defnyddiol iawn. Ffordd da i hala diwrnod."

"Diwrnod ardderchog, wedi ei hwyluso yn gywrain ac yn graslon."

"Yn ddefnyddiol iawn i gymeryd rhan yn weithredol. Wedi mwynhau - diolch!"

Costau: Prisir ein cyrsiau hyfforddiant yn gystadleuol. Mae'n bosibl gwneud gostyngiadau ar gyfer grwpiau neu sefydliadau o bobl anabl, neu grwpiau ar lefel incwm isel.

Byddwn yn falch i drafod anghenion hyfforddiant eich sefydliad. Cysylltwch â swyddfa Celfyddydau Anabledd Cymru.

Ymgynghoriaeth

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn darparu gwasanaeth ymgynghorol i sefydliadau celfyddydol ar faterion sy'n gysylltiedig at anabledd a'r celfyddydau.

Gall Ymgynghoriaeth Celfyddydau Anabledd gwmpasu'r materion canlynol:

Mae ein clientiaid wedi cynnwys:

Cysylltwch â swyddfa Celfyddydau Anabledd Cymru am fwy o fanylion.

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css