Neidio i'r prif destunn
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Strwythur Cynllun Gweithredu Anabledd

1. Datganiad o fwriad

Dyma lle byddwch yn rhoi'ch datganiad cyfle cyfartal neu ddatganiad am eich bwriadau cyffredinol o safbwynt pobl anabl.

Gallech ddefnyddio rhywbeth am y model cymdeithasol o anabledd e.e.

"mae xxxxx yn cydnabod nad yw pobl yn anabl oherwydd eu namau, ond oherwydd y rhwystrau ffisegol, cymdeithasol, economaidd ac agweddol mewn cymdeithas.

Mae xxxxx yn ymdrechu i ganfod a rhoi sylw i'r rhwystrau sy'n cadw pobl anabl rhag cymryd rhan yng ngweithgareddau'r sefydliad, fel artistiaid/perfformwyr a rhag bod yn gyfranogwyr / aelodau cynulleidfa (defnyddiwch pa bynnag un sy'n briodol)".

Dylid llunio gweddill y Cynllun Gweithredu fel hyn: Amlinellwch yr hyn yr ydych am ei gyflawni (y nod), rhannwch hyn yn gamau y bydd rhaid eu cymryd i wneud yn siwr y bydd hyn yn digwydd (y cam). Rhowch ddyddiadau targed ar gyfer pob cam. Dangoswch bwy sy'n gyfrifol am sicrhau fod pob cam yn cael ei gyflawni. Dilynwch yr un drefn ymhob adran.

2. Mynediad ffisegol

(y mannau lle'r ydych yn perfformio, teithio, ymarfer)

Dangos yr hyn yr ydych yn ei wneud i wella mynediad ffisegol.

3. Allgyrraedd

(yr hyn yr ydych yn ei wneud i ddenu cyfranogwyr a chynulleidfa newydd)

Amlinellwch brosiectau penodol pan yn berthnasol a nodwch yr hyn yr ydych yn ceisio'i wneud i sicrhau bod pobl anabl/plant/pobl ifanc yn gallu cyfranogi.

4. Marchnata a chyhoeddusrwydd

(eich deunydd cyhoeddusrwydd printiedig, rhaglenni, gwybodaeth ysgrifenedig)

Yn yr un modd dangoswch yr hyn yr ydych am ei wneud i sicrhau bod eich cyhoeddusrwydd o fewn cyrraedd pawb.

5. Ymgynghori

(sut yr ydych yn ymgynghori â phobl anabl ynglyn â datblygiad eich prosiect)

Er enghraifft, os ydych chi wedi ymgynghori â Chelfyddydau Anabledd Cymru, dylech nodi hynny. Hefyd enwch unrhyw grwpiau lleol yr ydych mewn cysylltiad â hwy, neu'n bwriadu cysylltu â hwy.

6. Hyfforddiant

Mae hyn yn cynnwys unrhyw gynlluniau hyfforddi yn y cynllun gweithredu, sy'n dangos yr hyn sy'n cael ei wneud i sicrhau bod eich hyfforddiant o fewn cyrraedd pawb, a pha hyfforddiant ar gyfer pobl anabl yn benodol yr ydych yn bwriadu'i ddarparu e.e. Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd a/neu hyfforddiant ar gyfer arweinwyr gweithdai.

7. Monitro

Os oes modd, mae'n syniad da i gadw rhyw fath o gofnod o nifer y bobl anabl sy'n cyfranogi neu sy'n mynychu eich gweithgareddau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglyn â hyn, cysylltwch â Celfyddydau Anabledd Cymru.

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css