Mae BSL yn iaith yn ei rhinwedd ei hun a chanddi ei gramadeg ei hun. Mae trefn y geiriau'n wahanol i'r iaith lafar.
Dehonglwr yw rhywun sydd (o leiaf) yn ddwyieithog ond a chanddo'r gallu ac sydd wedi'i hyfforddi i weithio rhwng dwy iaith a hwyluso cyfathrebu rhwng pobl fyddar a phobl sy'n gallu clywed.
Y term cywir yw dehonglwr BSL / Saesneg. Y termau anffurfiol yw dehonglwr BSL neu ddehonglwr iaith arwyddion. Peidiwch â galw dehonglwyr yn 'arwyddwyr'!
Dehongli o un iaith i'r llall, h.y.: llais i arwyddion, gan roi mynediad i bobl fyddar, ac o arwyddion i lais gan roi mynediad i bobl sy'n gallu clywed. Gelwir dehongli o arwyddion i lais yn 'drosleisio'' pan fydd person byddar yn arwyddo; mae'r dehonglwr yn dehongli i'r Saesneg, gan siarad i mewn i feicroffon.
Cofiwch: Mae rhai digwyddiadau a pherfformiadau yn fwy addas i gael eu deohongli nag eraill; ceisiwch gyngor yn gyntaf os ydych yn ansicr.
Bydd rhai dehonglwyr yn dehongli sioe gyfan ar eu pen eu hunain, ond efallai y bydd yn well gan eraill weithio gyda dehonglwr arall; gall ddibynnu ar hyd y sioe a'r math o gynhyrchiad.
Efallai y bydd un dehonglwr yn ddigon. Fodd bynnag, bydd angen egwyl fer ar y dehonglwr bob 20 neu 30 munud. Trafodwch gyda'r asiantaeth a / neu'r dehonglwr a fydd angen cyd-ddehonglwr. Pan fydd y dehonglwr yn cyrraedd gofynnwch pa mor aml y mae am gael egwyl.
Bydd angen o leiaf ddau ddehonglwr. Os bydd mwy nag un person byddar yn mynychu ac os bydd sesiynau llai neu ddewis o weithdai efallai y bydd angen mwy na dau ddehonglwr.
Dim ond pobl a chanddynt gymwysterau a phrofiad addas a fydd ar lyfrau asiantaethau ar gyfer dehonglwyr BSL/Saesneg. Gweler y dolenni isod i gael rhagor o wybodaeth am gymwysterau.
Dim ond ambell ddehonglwr yng Nghymru sy'n brofiadol mewn dehongli ar gyfer y theatr, ac yn aml mae'n rhaid archebu eu gwasanaeth gryn dipyn ymlaen llaw. Os ydych yn edrych am ddehonglwyr ar gyfer gweithdy neu ddarlith, mae dewis ehangach, ond nid oes digon i ddiwallu'r galw. Trefnwch ymhell ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eich siomi.
Cyngor Cymru i Bobl Fyddar (cymorth cyfathrebu). Ffôn: 01443 485 687 E-bost: wcdeaf@freenet.org.uk
Gwasanaethau Cyfathrebu RNID Cymru. Ffôn: 01792 324477, Ffôn testun: 01792 324455, Ffacs: 01792 324422, E-bost: csuneath@rnid.org.uk
Gwefan Cymdeithas Dehonglwyr Iaith Arwyddion
Gwefan Cyngor ar gyfer Datblygu Cyfathrebu â Phobl Fyddar
Gwefan Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain
Maent yn ailadrodd yr hyn a glywant drwy symudiadau gwefusau, mynegiant ar yr wyneb ac ystumiau naturiol. Nid ydynt yn defnyddio eu llais, a dim ond llais y siaradwr y gellir ei glywed.
Pobl sy'n drwm eu clyw neu sydd wedi cael eu byddaru ac y mae Cymraeg neu Saesneg yn iaith gyntaf iddynt.
Mewn cynadleddau, gweithdai, darlithoedd, cyfarfodydd y mae pobl sydd wedi cael eu byddaru neu sy'n drwm eu clyw yn cymryd rhan ynddynt neu'n gweithio ynddynt. Mae'n anarferol iawn i wefuslefarydd hwyluso perfformiad, ond mae hynny wedi digwydd ambell waith yn y gorffennol!
Os nad ydych wedi gweithio gyda gwefuslefarwyr o'r blaen, cysylltwch â sefydliad sy'n gweithio gyda phobl drwm eu clyw neu bobl sydd wedi'u byddaru, neu â Chelfyddydau Anabledd Cymru.
Gweler y rhai ar gyfer dehonglwr iaith arwyddion
Cyngor Cymru ar gyfer Pobl Fyddar (cymorth cyfathrebu). Ffôn: 01443 485 687, E-bost: wcdeaf@freenet.org.uk
Gwasanaethau Cyfathreb RNID Cymru. Ffôn: 01792 324477 Ffôn testun: 01792 324455, Ffacs: 01792 324422, E-bost:csuneath@rnid.org.uk
Gwefan Cymdeithas y Gwefuslefarwyr