Neidio i'r prif destun
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Datblygu Cynulleidfaoedd Byddar

Mae'r term Byddar yn cael ei ddefnyddio yma i ddisgrifio pobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain fel eu hiaith gyntaf - pobl sy'n rhan o'r gymuned Fyddar.

Mae hunaniaeth ddiwylliannol gref o fewn y gymuned Fyddar. Bydd pobl fyddar yn dod i wylio perfformwyr Byddar (digrifwyr, actorion, artistiaid caneuon wedi'u harwyddo ac ati). Mae hyn yn wahanol iawn i gael dehonglwyr iaith arwyddion ar gyfer digwyddiad gydag actorion, llefarwyr neu arweinwyr gweithdai sy'n clywed.

Yr hyn sy'n allweddol i ddatblygu cynulleidfaoedd Byddar yw gweithio mewn partneriaeth â sefydliad neu grŵp lleol neu genedlaethol i bobl Fyddar. Bydd y sefydliad hwnnw'n gallu rhoi cyngor ar berfformwyr, mynediad, cyfieithwyr a marchnata. Bydd cynnwys sefydliad sy'n cael ei arwain gan y Byddar yn annog pobl fyddar i fynychu.

Pwyntiau Gweithredu

Sefydliad neu grŵp sy'n bartner

Cyfathrebu

Math o artist

Archebu ac ymholiadau cyn y digwyddiad

Rhowch gyhoeddusrwydd i opsiynau ar gyfer cysylltu â'ch sefydliad:

Blaen y tŷ

Gwybodaeth Bellach

Cymdeithas Pobl Fyddar Cymru, Canolfan Ddiwylliannol Iaith Arwyddion Prydain, 47 Heol Casnewydd, Caerdydd, CF24 0AD. Ebost: wales@signcommunity.org.uk, Ffôn fideo IP: Cardiff.bda.bslphone.com, Ffôn testun: 0845 1302853, Ffôn: 0845 1302851, Ffacs: 0845 1302852

Gwefan Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain

Gwefan Cymdeithas Frenhinol Pobl Fyddar

Gwefan Deaf and Creative Cliciwch ar astudiaethau achos i ddysgu mwy am artistiaid Byddar

Gwefan Shape. Cliciwch ar Deaf Arts.

Beth am gynulleidfaoedd o bobl wedi'u byddaru neu bobl trwm eu clyw?

Gall pobl wedi'u byddaru a phobl drwm eu clyw fynych grŵp neu glwb, ond maent yn llai tebygol o wneud hynny na defnyddwyr iaith arwyddion. Mae diwylliant pobl sydd wedi'u byddaru neu sy'n drwm eu clyw yn fwy tebygol o fod yn debycach i bobl sy'n gallu clywed.

Gall perfformiwr sy'n Drwm ei Glyw sy'n defnyddio ei lais apelio at rai cynulleidfaoedd o bobl trwm eu clyw neu bobl wedi'u byddaru, ond dylid canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â mynediad.

Os yw bobl sydd wedi'u byddaru neu sy'n drwm eu clyw yn debygol o fynychu'r digwyddiad, efallai y bydd angen y canlynol arnoch:

Gwybodaeth Bellach

Gwefan Cymdeithas Genedlaethol Pobl wedi'u Byddaru

Gwefan Hearing Concern

Gwefan Cyngor Cymru i Bobl Fyddar

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css