Neidio i'r prif destun
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Theatr gydag Isdeitlau

Mae theatr ag isdeitlau yn gyfleuster cymharol newydd sy'n darparu isdeitlau ar gyfer perfformiadau byw.

Mae geiriau'r actorion a disgrifiadau o effeithiau sain yn ymddangos ar uned arddangos, sydd fel arfer ar ochr y llwyfan. Ar lwyfan mawr, efallai y bydd dwy uned arddangos, y naill ochr i'r llwyfan.

Caiff y sgript ei rhaglennu i offer penawdau gan isdeitlydd hyfforddedig, sy'n gweithio'n agos gyda'r tîm cynhyrchu cyn y sioe, ac sy'n gweithredu'r isdeitlau yn ystod y perfformiad.

Mae isdeitlo yn gwneud theatr yn hygyrch i lawer o bobl sydd wedi'u byddaru a phobl sy'n drwm eu clyw, ac mae ganddo'r potensial i ddenu cynulleidfa cwbl newydd i'r theatr.

Mae bellach yn bosibl i theatrau yng Nghymru logi unedau isdeitlo, ynghyd â gwasanaethau isdeitlydd hyfforddedig a phrofiadol. Noder fod gan theatr ag isdeitlau oblygiadau o ran marchnata, swyddfa docynnau a staff blaen y tŷ a dylent oll gael eu hyfforddi'n briodol cyn perfformiadau o'r fath.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Chelfyddydau Anabledd Cymru, Ffôn / Minicom 029 2055 1040 neu post@dacymru.com.

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css