Neidio i'r prif destun
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Beth yw Celfyddydau i Bobl Anabl?

Dechreuodd datblygiad celfyddydau i bobl anabl yn y 1970au / 80au o ganlyniad i ymgyrchu gwleidyddol newydd gan y mudiad pobl anabl. Cyn hynny roedd y rhan fwyaf o gelfyddyd yn ymwneud â phobl anabl yn cael ei wneud gan bobl nad oeddent yn anabl. Pan ddechreuodd pobl anabl ddefnyddio'r celfyddydau i adlewyrchu eu profiadau, roedd hyn yn bersbectif gwahanol iawn.

Mae celfyddydau i bobl anabl bob amser yn cael ei wneud gan bobl anabl, sydd naill ai'n bobl broffesiynol neu'n amaturiaid. Ni all celfyddydau i bobl anabl byth gael ei wneud neu ei arwain gan bobl nad ydynt yn anabl.

Mae celfyddydau i bobl anabl yn adlewyrchu profiadau pobl anabl, neu ddiwylliant anabledd. Gall hyn fod yn eithaf amlwg, fel mewn hunan bortread neu hunangofiant, neu gall ymaterion fod yn fwy cymhleth.

Mae celfyddydau i bobl anabl yn yr 21ain Ganrif yn llai gwleidyddol nag yn y dyddiau cynnar, ond fel arfer mae'n ceisio sicrhau newid, neu roi persbectif arbennig i fater penodol.

I ddechrau, cynhyrchwyd celfyddydau i bobl anabl gan artistiaid anabl i bobl anabl eraill. Yr oedd yn ffordd o gyfathrebu a chydnabod a rhannu profiadau. Bellach, mae ymarferwyr celfyddydau i bobl anabl yn cyrraedd celfyddydau prif ffrwd, a gallant ddenu cynulleidfa eithaf amrywiol.

A yw pob gwaith celf gan bobl anabl yn 'gelfyddydau i bobl anabl'?

Nac ydy. Nid yw artist anabl sy'n paentio tirlun yn creu celfyddyd i bobl anabl o anghenraid. Efallai bod yr artist am baentio'r tirlun hwnnw, ond efallai y bydd ei gwaith yn cael ei ddylanwawdu gan brofiad o anabledd.

Beth am 'gelfyddydau ac anabledd'? Ai'r un peth yw hynny?

Defnyddir y term 'celfyddydau ac anabledd' i ddisgrifio prosiectau celfyddydol sydd wedi'u sefydlu yn arbennig ar gyfer pobl anabl, ond sydd fel arfer yn cael eu harwain gan bobl nad ydynt yn anabl. Gellir dod o hyd i waith celfyddydau ac anabledd yn y gymuned, neu mewn cartrefi preswyl, ysgolion arbennig neu ganolfannau gofal dydd. Nid yw celfyddydau ac anabledd yn ceisio adlewyrchu profiadau bywydau pobl anabl yn yr un ffordd ag y gwna celfyddydau i bobl anabl.

Beth yw'r cysylltiad rhwng celfyddydau i bobl anabl a chelfyddydau ac iechyd?

Maent yn wahanol iawn. Gall celfyddydau ac iechyd fod yn waith celf mewn lleoliad iechyd fel meddygfa, clinig neu ysbyty. Gall fod yn brosiect mewn hosbis neu gartref preswyl, neu brosiect yn y gymuned a chanddo amcanion arbennig yn ymwneud ag iechyd. Gall celfyddydau ac iechyd gynnwys pobl anabl a / neu bobl nad ydynt yn anabl. Hyd yn oed os yw pobl anabl yn cymryd rhan, nid yw celfyddydau ac iechyd yn gelfyddydau i bobl anabl, neu'n gelfyddydau ac anabledd.

Beth yw 'celfyddydau cynhwysol'?

Mae llawer o waith yn cael ei wneud i sicrhau bod y celfyddydau yn fwy hygyrch i ystod eang o gyfranogwyr. Mae digwyddiad celfyddydol sy'n hygyrch i bobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yn 'hygyrch' neu'n 'gynhwysol'. Dylai pob math o gelfyddyd, boed yn brif ffrwd, celfyddydau i bobl anabl, celfyddydau ac anabledd neu gelfyddydau ac iechyd fod yn hygyrch ac yn gynhwysol.

Darllen pellach:

Effecting Change; Disability Culture and Art? Papur gan Colin Barnes, Athro Astudiaethau Anabledd, Prifysgol Leeds.Ewch i'r wefan.

Face On: Disability Arts in Ireland and Beyond Kaite O'Reilly (Gol.) (cymharu twf celfyddydau i bobl anabl yn Iwerddon a Chymru) cyhoeddwyd gan Arts and Disability Ireland ISBN 9780955474903. Cyswllt: Katrina Goldstone yn Create, Ffôn: 01-4736600, E-bost: communications@create-ireland.ie

Chronology of Disability Arts gan Allan Sutherland. Ewch i'r wefan

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css