Neidio i'r prif destun
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Cyfleusterau mynediad cyffredin

Bydd gofynion mynediad bob amser yn amrywio rhwng unigolion, a byddant hefyd yn dibynnu ar y digwyddiad dan sylw. Isod rhestrir rhai o'r cyfleusterau mynediad mwyaf cyffredin y gofynnir amdanynt, ond nid yw'r rhestr yn gynhwysfawr. Mae rhyddid i chi ychwanegu ati yn unol â'ch profiad!

Lleoliad

Allanol

Mewnol

Darpariaeth ychwanegol

(gall hyn gael ei ddarparu gan y lleoliad neu gan gwmnïau sy'n ymweld)

Offer

Gwybodaeth

Personél

Disgrifiwr clywedol - sy'n rhoi gwybodaeth ar agweddau gweledol y perfformiad i bobl ddall. Caiff y wybodaeth ei chyfleu dros glustffonau isgoch yn yr un modd ag y gwneir ar gyfer cyfieithu ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg)

Dehonglwr iaith arwyddion - sy'n cyfieithu'r iaith lafar i Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer pobl fyddar

Gwefuslefarydd - sy'n rhoi dehongliad gair am air drwy ddefnyddio patrymau gwefusau er mwyn galluogi pobl fyddar a thrwm eu clyw i ddarllen gwefusau.

Teipydd ar y Pryd (Palanteipydd) - sy'n teipio'r iaith lafar gair am air a chaiff y testun ei arddangos ar unwaith ar sgrîn fawr er mwyn i bobl fyddar a thrwm eu clyw allu ei ddarllen (defnyddir hyn gan fwyaf mewn cynadleddau, cyfarfodydd a seminarau)

Hwylusydd ar gyfer pobl a chanddynt anawsterau dysgu - sy'n gweithio gyda phobl a chanddynt anawsterau dysgu er mwyn sicrhau eu bod yn deall gwybodaeth a gweithdrefnau. Bydd unigolion yn dod â'u hwylusydd eu hunain gyda hwy fwy na thebyg, ond dylai trefnwyr gadarnhau hyn ymlaen llaw. Dylid rhoi mynediad am ddim i hwyluswyr.

Cynorthwywyr Personol / Gweithwyr Mynediad - pobl a chanddynt gyfrifoldeb penodol dros fynediad mewn digwyddiadau

Stiwardiaid wedi'u hyfforddi mewn cydraddoldeb ac ymwybyddiaeth yn y maes anabledd - staff neu wirfoddolwyr yn eich sefydliad sydd wedi cael eu hyfforddi mewn gohebiaeth sy'n ymwneud ag anabledd a gofal cwsmeriaid.

Darllen pellach

Gweler y rhestr ddarllen am Welliannau i Fynediad Ffisegol

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css