Neidio i'r prif destun
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Polisi Prisio ar gyfer Consesiynau

Dylai sefydliadau celfyddydol ystyried cynnig consesiynau i bobl anabl o dan yr amgylchiadau canlynol:

Pan fydd sefydliad yn gofyn i rywun fynychu gyda pherson anabl.

Mae rhai lleoliadau'n gofyn i rywun fynychu digwyddiadau gyda rhywun mewn cadair olwyn neu rywun dall oherwydd 'rheoliadau tân'. Yn yr achos hwn, nid yw mynychu ar ei ben ei hun yn ddewis sydd ar gael i'r person anabl, felly dylid rhoi tocyn am ddim i'r sawl fydd yn dod gydag ef, beth bynnag fo'r consesiynau eraill sydd ar gael i'r person anabl (gweler yr enghreifftiau isod)

Pan fydd y dewis o seddau (mewn lleoliad) neu lwybr (mewn oriel neu ŵyl) yn gyfyngedig

Os yw dewis o seddau neu lwybr hygyrch yn gyfyngedig, dylid cynnig consesiynau. Ni ddylai'r prisiau fod yn uwch na phris y tocyn rhataf sydd ar gael. Dylai'r consesiwn hwn fod ar gael i gydymaith person anabl hefyd.

Pan fydd angen i berson anabl brynu sedd ddrutach er mwyn mwynhau'r perfformiad

Enghreifftiau:

Efallai mai'r seddau hyn fydd y rhai drutaf, ond dylid codi'r pris rhataf amdanynt. Dylai'r consesiynau fod ar gael i gydymaith y person anabl hefyd.

Os na all person anabl fynychu heb gydymaith.

Er enghraifft, efallai na fydd rhai pobl a chanddynt anawsterau dysgu yn gallu mynychu heb eu gweithiwr cymorth. Yn ddelfrydol dylai'r gweithiwr cymorth allu mynychu am ddim.

Gellid nodi yn y polisi: 'Rydym yn cynnig tocyn am ddim i un cydymaith fynychu gydag oedolyn anabl na fyddai'n gallu mynychu'r digwyddiad fel arall.'

Mae 'Cydymaith' yn derm cyffredinol a ddefnyddir i gyfeirio at Gynorthwy-ydd Personol, Gweithiwr Cymorth neu Ofalwr.

Enghreifftiau o sut y gallai hyn weithio:

Pan gaiff consesiynau eu cynnig i uwch ddinasyddion, myfyrwyr a phobl ddi-waith, dylent hefyd gael eu cynnig i bobl anabl.

Y lleoliad sydd i benderfynu a oes angen prawf statws ai peidio, ond gallai hyn fod yn anodd i rai pobl anabl. Dylai polisi'r lleoliad fod yn glir ynghylch a ganiateir consesiynau os nad oes gan berson anabl brawf o'i statws.

Polisïau, gweithdrefnau ac ymarfer

Dylai pob rheolwr, staff y swyddfa docynnau a staff blaen tŷ fod yn ymwybodol o bolisi ac ymarfer y sefydliad o ran consesiynau. Mae'n hanfodol bod y materion hyn yn cael eu cyfleu'n glir a bod y staff yn ymwybodol pwy sydd â'r cyfrifoldeb mewn sefyllfaoedd penodol.

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css