Neidio i'r prif destun
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Cymdeithas a Phobl Anabl

Y Cefndir a'r Hanes

Hyd yn oed os cymerwn gipolwg ar hanes pobl anabl ym Mhrydain, mae gwreiddiau gwahaniaethu a'r hyn sy'n achosi allgáu cymdeithasol i'w gweld yn amlwg.

Yn hanesyddol, mae pobl anabl wedi cael gwahanol rolau mewn gwahanol ddiwylliannau:

Cred rhai llwythi a diwylliannau eraill fod pobl anabl yn bwerus, yn gyfriniol neu y dylid eu mawrygu, a'u bod wedi cael eu dewis neu eu cyffwrdd gan y duwiau.

Fodd bynnag, yr oedd barn y Groegiaid a'r Rhufeiniaid yn wahanol.

Gan eu bod yn mawrygu perffeithrwydd corfforol a meddyliol roeddent yn ystyried bod unrhyw fath o nam, boed yn gorfforol neu'n feddyliol, yn drasiedi neu'n felltith. Roeddent yn priodoli hyn i gosb gan y duwiau am ryw fath o gamwedd neu wendid.

Mae diwylliant modern y Gorllewin, sy'n dibynnu'n fawr ar y clasuron ar gyfer gwybodaeth ac addysg, bob amser wedi tueddu i ffafrio'r ail farn. Os edrychwch ar bopeth o storïau tylwyth teg i ffilmiau James Bond, o hysbysebion elusennau i'r gemau Olympaidd, fe welwch fod pobl anabl yn cael eu cyflwyno mewn un o dair ffordd:

Mudiad Pobl Anabl

Ym Mhrydain sefydlwyd mudiad pobl anabl ar ddiwedd y 1970au a'r 1980au. Dilynodd yn glos wrth sodlau mudiad pobl anabl America a welodd gyn-filwyr Fietnam, a oedd yn ifanc, yn addysgedig a chanddynt nam corfforol, yn ymladd ac yn ennill mesur Hawliau Sifil llawn. Heddiw mae sawl sefydliad a Chynghrair, a'r mwyaf nodedig ohonynt o bosibl yw Cyngor Pobl Anabl y Deyrnas Unedig ac Anabledd Cymru. Prif swyddogaeth yr holl sefydliadau hyn yw gwrthsefyll pob math o ormes, rhagfarn a gwahaniaethu ac ymgyrchu dros fynediad a chyfle cyfartal i bobl anabl. Gellir crynhoi'r awydd hwn i gael eu cynnwys mewn pob agwedd ar fywyd yn y slogan 'Dim Byd Amdanom Ni, Hebom Ni'

Modelau Anabledd

Ffyrdd o ddeall anabledd ac ymateb iddo yw modelau anabledd. Maent yn disgrifio theori'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol ym mywydau pobl anabl, a chânt eu hysgrifennu gan bobl anabl, i helpu cymdeithas i ddeall eu gormes a'r newidiadau sydd eu hangen. Y model meddygol yw barn draddodiadol cymdeithas, sy'n arwain at ddiffyg grymuso a gwahanu pobl anabl, ac nid yw'n cynnig unrhyw ffordd ymlaen ar gyfer newid. Mae'r model cymdeithasol yn annog cymdeithas i feddwl am bobl anabl ar yr un lefel â phobl nad ydynt yn anabl - fel pobl a chanddynt hawliau ac anghenion, yn hytrach na gwahaniaethau a phroblemau. Mae'n gofyn i gymdeithas newid er mwyn darparu ar gyfer pobl anabl, ac mae'n nodi y bydd cymdeithas sy'n fwy cynhwysol tuag at bobl anabl yn lle gwell i bawb.

Y Model Meddygol

Yn hanesyddol, mae pobl anabl wedi talu pris mawr am gael eu hystyried fel dioddefwyr trasig neu ffigurau sinistr i'w hofni a'u hosgoi. Mae hyn wedi arwain at gael eu gwahanu o ran eu magwraeth, tai, addysg a chyflogaeth. Yn hanesyddol bu pobl anabl ymysg y tlotaf yn y wlad ac mae hyn yn parhau i fod yn wir. Mae diweithdra ymysg oedolion anabl o oedran gweithio yn parhau i fod oddeutu 50% ac mae llawer o bobl anabl yn parhau i fyw bywydau ar wahân ac unig.

Mae'r model meddygol yn gweithio drwy ymateb i nam rhywun o safbwynt meddygol. Yr opsiwn cyntaf yw ceisio gwella'r person, a'u gwneud yn union fel pawb arall. Yr ail opsiwn yw triniaeth i sicrhau bod y person mor debyg i bawb arall â phosibl - e.e. llawdriniaeth ar blant a chanddynt Syndrom Down i wneud iddynt edrych fel pe na bai'r syndrom ganddynt. Os bydd y rhain yn methu, y trydydd opsiwn yw darparu 'gofal', sydd fel arfer ar wahân, ac nid yw'n darparu'r ansawdd bywyd y mae pobl nad ydynt yn anabl yn ei ddisgwyl.

Yn aml ystyrir bod gwneud newidiadau i sicrhau bod bywyd yn fwy hygyrch ac yn fwy cynhwysol yn rhywbeth 'ychwanegol' ac yn rhywbeth i'w ddrwgdybio a cheir hyd yn oed ddicter oherwydd y gost. Yn aml caiff pobl anabl eu hunain, sy'n teimlo'n ddig ynghylch anghydraddoldeb, gwahaniaethu a'r rhwystrau a wynebant, eu hystyried fel pobl sy'n codi twrw neu bobl sy'n chwerw oherwydd eu hanabledd.

Y Model Elusennol

Yn hanesyddol dechreuodd elusennau drwy geisio gwneud rhywbeth am yr amodau ofnadwy yr oedd llawer o bobl yn byw ynddynt ym Mhrydain. Roeddent yn defnyddio cyfoeth y breintiedig i geisio gwella bywydau'r difreintiedig a'r canlyniad oedd bod y cymwynaswyr yn cael anrhydeddau, braint a phŵer oherwydd eu haelioni a bod y bobl anabl eu hunain yn ffodus ac yn ddyledus iawn i'r elusen.

Mae elusennau modern yn ceisio symud oddi wrth y ddelwedd hen ffasiwn hon. Yn aml maent yn defnyddio'r syniad o berson anabl fel arwr sy'n aml (gyda chymorth yr elusen!) yn goresgyn treialon a phroblemau dybryd i fyw bywyd hapus, a theimlo eu bod wedi eu grymuso. Mae iaith elusennau yn llawn geiriau ac ymadroddion fel 'dewr', 'gwrol' 'hael', 'caredig', 'helpu pobl i fyw bywyd gwell' a geiriau poblogaidd eraill y dydd.

Y Model Cymdeithasol - Meddylfryd Newydd

Diffiniwyd y Model Cymdeithasol o Anabledd gan ymgyrchwyr anabledd yn y 1970au a'r 80au a welodd yr angen i bobl anabl ddechrau cymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.

Mae'r Model Cymdeithasol yn rhoi meddylfryd newydd i ni ac offeryn i sicrhau newid. Mae'n gwahanu 'nam' oddi wrth 'anabledd':

Namau yw'r cyflyrau meddygol sydd gan bobl.

Anabledd yw'r cyfyngiad ar fywydau pobl a chanddynt nam, oherwydd eu bod yn byw mewn cymdeithas nad yw'n ystyried eu hanghenion.

Mae'n gweithio fel hyn:

Nam - yw'r 'hyn sy'n bod arnom'. Gall namau fod yn fach neu'n ddifrifol, yn unigol neu'n lluosog, dros dro neu'n hirdymor. Nid yw namau yn parchu ffiniau. Waeth faint yw eich oed, waeth beth yw eich rhyw neu'ch cefndir ethnig, neu waeth pa mor gyfoethog yr ydych, gallwch gael nam. Rydym yn cael namau drwy drawma, damwain, geneteg, salwch, heneiddio a sawl ffordd arall.

Mae anabledd yn wahanol - Dyma'r rhwystrau mewn cymdeithas sy'n achosi'r problemau sy'n gwneud pobl yn anabl. Mae llawer o rwystrau mewn cymdeithas sy'n atal pobl anabl rhag cael dewisiadau cyfartal.

Gallai enghreifftiau yn y celfyddydau gynnwys diffyg lleoedd parcio hygyrch, sinema heb isdeitlau neu ddisgrifiadau clywedol, cyhoeddusrwydd mewn print bach ar bapur â sglein arno, gweithdy cyflym sy'n llawn jargon, sefydliad sy'n tybio na all pobl anabl gymryd rhan - heb sôn am gael eu cyflogi.

Mae'n bwysig cofio na all pobl newid - ni fydd ein namau yn diflannu. Ond gellir cael gwared ar y rhwystrau, ac os bydd ein cymdeithas yn gwbl hygyrch, yna ni fydd neb yn anabl. Os defnyddiwn y model cymdeithasol i sicrhau newid, gallwn gael effaith wirioneddol ar hygyrchedd y celfyddydau.

Ni fydd neb yn disgwyl i chi rhoi disgrifiad deheuig o'r Model Cymdeithasol ar amrantiad. Yr hyn sy'n bwysig yw dealltwriaeth bod gan bobl ffordd wahanol o gael mynediad i bethau, ond drwy gydweithio, gallwn wneud newidiadau enfawr er gwell. Bydd popeth a wnewch i wella mynediad yn gwneud gwahaniaeth!

Darllen pellach

Gwefan Cyngor Pobl Anabl y Deyrnas Unedig

Gwefan Anabledd Cymru

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css