Cynorthwywyr Personol / Gweithwyr Mynediad
Beth mae Cynorthwywyr Personol neu Weithwyr Mynediad yn ei wneud?
Maent yn cael eu cyflogi gan sefydliadau celfyddydol i ganolbwyntio ar faterion mynediad mewn digwyddiadau y mae pobl anabl yn eu mynychu neu'n cymryd rhan ynddynt.
Disgwylir i Gynorthwy-ydd Personol ymgymryd â thasgau megis:
- Gweithredu fel cynorthwy-ydd neu hwylusydd mewn digwyddiadau cyfranogol
- Rhoi gwybodaeth hanfodol i berson anabl mewn ffordd y gallant ei deall
- Symud cadeiriau a byrddau er mwyn trefnu lle gwell
- Casglu deunyddiau / lluniaeth
- Helpu pobl gyrraedd eu diod/bwyd
- Trefnu trafnidiaeth
- Gwneud galwadau ffôn
- Bwydo llinellau i actorion dall â'r rhai â nam ar eu golwg
- Darllen gwaith ysgrifenedig ar goedd
- Ysgrifennu neu gymryd nodiadau
- Tywys person dall neu berson â nam ar eu golwg
- Helpu'r rhai mewn cadair olwyn i symud
Dyletswyddau nad ydynt yn ofynnol i Gynorthwy-ydd Personol / Gweithiwr Mynediad eu gwneud
- Darparu gofal personol i unigolyn
- Darparu meddyginiaeth neu ofal meddygol arall
- Codi pobl
Beth sy'n gwneud Cynorthwy-ydd Personol / Gweithiwr Mynediad Da?
- Profiad o weithio gyda phobl anabl yn y gorffennol
- Sgiliau cyfathrebu da
- Sgiliau gwrando da
- Ymateb yn gyflym
- Defnyddio cymhelliant
- Person ymarferol
- Deall bod hwyluso yn rôl sy'n galluogi
Sawl Cynorthwyydd Personol / Gweithiwr Mynediad fydd ei angen arnoch?
Mae'n dibynnu ar y math o ddigwyddiad a nifer y bobl anabl sy'n debygol o fynychu'r digwyddiad.
ENGHRAIFFT: Dylai un neu ddau o Weithwyr Mynediad fod yn ddigon ar gyfer gweithdy ysgrifennu gyda deg o bobl anabl ynddo. Os bydd rhai ohonynt angen cymorth penodol megis ysgrifennu neu gymryd nodiadau drwy gydol y sesiwn yna efallai y bydd angen rhagor.
Gall Celfyddydau Anabledd Cymru eich cynghori ymhellach.
Dod o hyd i Gynorthwy-ydd Personol / Gweithiwr Mynediad
Ar hyn o bryd nid oes hyfforddiant penodol ar gyfer gweithwyr mynediad yn y celfyddydau.
Gofynnwch am gyngor gan sefydliadau celfyddydau i bobl anabl neu sefydliadau celfyddydol eraill sydd wedi cyflogi gweithwyr mynediad ar gyfer digwyddiadau yn y gorffennol.
Pwyntiau gweithredu
- Os nad ydych wedi gweithio gyda Chynorthwy-ydd Personol / Gweithwyr Mynediad o'r blaen, mae'n syniad ymgynghori â sefydliadau i bobl anabl neu Gelfyddydau Anabledd Cymru yn y lle cyntaf.
- Dylech gynnwys cyllideb ar gyfer Gweithwyr Mynediad wrth wneud cais am grant
Pan fyddwch wedi dod o hyd i Weithiwr Mynediad ac wedi archebu ei wasanaeth:
- Anfonwch wybodaeth lawn am y digwyddiad. Dylech gynnwys:
- amlinelliad o gyfrifoldebau'r unigolyn
- trefn y digwyddiad neu'r agenda
- amserlen gydag amseroedd dechrau a gorffen
- cyfarwddiadau a pharcioy
- manylion cyswllt ar gyfer staff allweddol
- Ar y rhestr mynychwyr, dylid rhestru'r Gweithwyr Mynediad ar wahân, yn hytrach na'u cynnwys ar restr y cyfranogwyr
Trefniadau ymarferol yn y digwyddiad
- Dylai'r cynorthwy-ydd personol / gweithwyr mynediad wisgo crys-t neu rywbeth y gellir eu hadnabod. Mae gweithwyr cynorthwyol Celfyddydau Anabledd Cymru yn gwisgo crysau-t glas tywyll gyda llythrennau mawr melyn arnynt. Yn ystod un digwyddiad roedd y cynorthwywyr personol yn gwisgo blodau garlant! Efallai na fydd angen gwneud hyn ar gyfer digwyddiad bychan ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno'r cynorthwywyr personol i bobl ar ddechrau'r digwyddiad.
- Dewiswch berson allweddol i fod yn gyfrifol am drafod â'r Gweithwyr Mynediad yn ystod y digwyddiad
- Cyn i'r digwyddiad ddechrau, ewch â'r gweithwyr mynediad ar daith o amgylch yr adeilad er mwyn iddynt wybod lle i ddod hyd i bopeth.
- Lluniaeth: Dylech gynnwys y Gweithwyr Mynediad wrth archebu lluniaeth a bwyd ar gyfer y cwmni a'r criw.
Cysylltwch â
Celfyddydau Anabledd Cymru: Ffôn / Minicom 029 2055 1040, e-bost: post@dacymru.com