Roedd y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd (y Ddeddf) yn angenrheidiol er mwyn:
Nid yw'r gyfraith hon yn Fesur llawn o Hawliau Sifil yr oedd pobl anabl am ei gael, ond mae wedi mynd gam o'r ffordd tuag at wella bywydau pobl anabl, ac mae o fudd i chi wybod beth yw ei goblygiadau i chi a'ch sefydliad.
Dim ond trosolwg cryno o rai rhannau o'r ddeddf sydd yn y bennod hon. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0845 604 8810.
Bwriad y Ddeddf yw atal gwahaniaethu rhag digwydd i'r "rhai sydd (neu mewn rhai achosion, oedd) yn bobl anabl" yn unig. Er mwyn defnyddio'r Ddeddf hon rhaid i chi yn gyntaf brofi eich bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer cael eich diogelu ganddi.
Mae'r Ddeddf yn diffinio anabledd fel:
"nam sy'n cyfyngu ar ei allu i ymgymryd â gweithgareddau dyddiol arferol neu sy'n atal neu'n llesteirio ei allu i wneud hynny."
O dan y Ddeddf, mae'r term 'Nam corfforol' yn cynnwys nam ar y synhwyrau a nam symud, a chyflyrau fel canser, HIV ac AIDS. Mae 'nam meddyliol' yn cwmpasu'r ystod gyfan o ddysgu, anabledd seiciatrig a seicolegol.
Er mwyn cael eich ystyried yn berson anabl o dan y Ddeddf, rhaid i nam gael effaith andwyol hirdymor.
"nam sy'n cyfyngu ar ei allu i ymgymryd â gweithgareddau dyddiol arferol neu sy'n atal neu'n llesteirio ei allu i wneud hynny."
Gweithgaredd dyddiol arferol yw un sy'n arferol i'r rhan fwyaf o bobl ac sy'n cael ei wneud gan y rhan fwyaf o bobl yn ddyddiol neu'n aml ac yn eithaf rheolaidd.
Dim ond os gellir profi bod eu nam yn effeithio ar un neu fwy o'r canlynol y mae person anabl yn cael ei ddiogelu gan y Ddeddf:
Mae effaith andwyol "sylweddol" yn un sy'n "fwy nag effaith fach neu ddibwys", gan fynd y tu hwnt i'r gwahaniaethau arferol mewn gallu sy'n bodoli rhwng pobl.
Mae effaith andwyol yn "hirdymor" os yw:
Yn ogystal caiff y bobl ganlynol eu cwmpasu gan y Ddeddf:
Ni chaiff y canlynol eu cwmpasu:
Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn ceisio sicrhau y caiff pobl eu trin yn deg pan fyddant yn ceisio dod o hyd i gyflogaeth neu'n ceisio cadw swydd.
Mae'r rhan hon o'r Ddeddf yn berthnasol i unrhyw sefydliad sy'n cyflogi staff, waeth faint o bobl y maent yn eu cyflogi.
Mae gofynion cyflogaeth y Ddeddf yn gofyn i gyflogwr ystyried anghenion darpar gyflogai neu gyflogai presennol, er mwyn sicrhau bod yr hyn a ddarperir yn canolbwyntio ar ofynion unigolion, yn hytrach nag ar ddatblygu polisïau cynhwysol ac arferion da cyffredinol.
Bellach mae'n ddyletswydd ar bob cyflogwr i beidio â gwahaniaethu yn erbyn person anabl wrth...
Os bydd person anabl yn gwneud cais am swydd neu os bydd cyflogai yn mynd yn anabl, rhaid i gyflogwr ystyried gwneud addasiadau rhesymol i'r gweithle neu amodau'r swydd. Gallai addasiadau o'r fath gynnwys:
Mae gwahaniaethu'n digwydd pan gaiff person anabl ei drin yn llai ffafriol na rhywun arall... oni ellir cyfiawnhau hynny.
Gall cyflogwr gyfiawnhau triniaeth lai ffafriol os oes gan y cyflogwr "reswm perthnasol a sylweddol" na ellir ei "oresgyn neu ei wneud yn llai sylweddol drwy wneud addasiad rhesymol".
Cyfrifoldeb y cyflogwr yw penderfynu a yw mesurau yn...
Yn wahanol i ddarpariaethau cyflogaeth y Ddeddf, mae dyletswydd ar ddarparwr gwasanaethau i fod yn rhagweithiol. Ni ddylent aros i sefyllfa godi ond dylent ragweld anghenion posibl person anabl.
Mae'r ddyletswydd i gydymffurfio â'r Ddeddf yr un mor berthnasol i bob darparwr gwasanaeth, beth bynnag fo...
Bron unrhyw beth y gallwch feddwl amdano a gaiff ei gynnig fel gwasanaeth i'r cyhoedd, yn cynnwys...
"mae'n anghyfreithlon i ddarparwr gwasanaethau wahaniaethu drwy..."
ENGHRAIFFT: Os caiff gweithdy ei gynnal mewn ystafell ar y llawr cyntaf sy'n anodd ei chyrraedd, a bod y cwmni yn gwrthod newid y lleoliad i ystafell hawdd ei chyrraedd ar y llawr daear er mwyn i bobl anabl allu cymryd rhan ynddo, gallai hyn fod yn anghyfreithlon, oni all y cwmni roi rhesymau da pam na ellir newid yr ystafell.
Mae gwahanol gategorïau o driniaeth lai ffafriol:
ENGHRAIFFT: Mae cwsmer yn ffonio cwmni ac yn gofyn am lyfryn mewn print bras. Mae'r llyfryn yn cyrraedd yn rhy hwyr i fod o unrhyw ddefnydd. Mae'r cwsmer yn gofyn i lyfryn print bras gael ei anfon yn awtomatig ato pob tro, ond caiff y llyfryn arferol ei anfon ato sy'n golygu bod yn rhaid i'r cwsmer ffonio i ofyn am fformat hygyrch bob tro. Gellid ystyried bod hyn yn driniaeth lai ffafriol.
Conglfaen y ddeddf yw¡r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol er mwyn cynnwys pobl anabl. Nid yw'n ddigon osgoi trin pobl anabl yn llai ffafriol, neu hyd yn oed "trin pawb yr un fath". Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ragweld gofynion defnyddwyr presennol y gwasanaeth a darpar ddefnyddwyr, a gwneud addasiadau ar eu cyfer.
Mae tri chategori o addasiadau rhesymol:
Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sicrhau nad yw unrhyw bolisi, ymarfer neu weithdrefn bresennol neu arfaethedig yn rhoi pobl anabl dan anfantais anghyfreithlon neu anfantais y gellir ei hosgoi. Rhaid craffu ar bob polisi - nid dim ond y rhai sy¡n ymwneud â phobl anabl.
ENGHRAIFFT: Gallai polisi 'dim cŵn' eithrio perchnogion cŵn cymorth (cŵn sy'n gweithio i bobl ddall, byddar neu anabl)
Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau ddarganfod pa gymhorthion ac offer fydd ei angen i alluogi person anabl i ddenfyddio gwasanaeth. Dylid hyfforddi staff i ddefnyddio offer o'r fath a rhoi hyfforddiant cydraddoldeb i bobl anabl iddynt.
Dyma rai cymhorthion ac offer:
O 1af Hydref 2004 rhoddwyd dyletswydd ar ddarparwyr gwasanaethau i... "Ddileu rhwystrau ffisegol sy'n atal person anabl rhag defnyddio gwasanaeth."
Ers hynny ystyrir bod gwrthod darparu gwasanaeth i berson anabl oherwydd rhwystrau yn yr amgylchedd ffisegol, fel drysau cul, grisiau neu adeilad heb lifft ac ati, yn gyfystyr â gwahaniaethu.
Lle y gellir profi bod gwneud newidiadau i adeilad yn rhy ddrud neu'n debygol o newid defnydd yr adeilad yn sylweddol, efallai yr ystyrir ei bod yn dderbyniol caniatáu i'r gwahaniaethu barhau. Fodd bynnag, byddai'r gyfraith yn disgwyl i'r sefydliad dan sylw wneud rhywfaint o ymdrech i ddarparu ffordd amgen o sicrhau bod y gwasanaeth yn hygyrch.
ENGHRAIFFT: Os nad yw rhan o'r adeilad yn hygyrch, gellir dangos ffilm a ffotograffau o'r rhan honno o'r adeilad mewn rhan hygyrch o'r adeilad.
Wrth ddehongli Rhan 3 o'r Ddeddf, mae'n bwysig nodi nad oes angen i ddarparwr gwasanaeth newid natur y gwasanaeth a ddarperir. Er enghraifft, nid oes rhaid i linell gymorth dros y ffôn ddod yn wasanaeth gwybodaeth personol neu ysgrifenedig. Fodd bynnag byddai'n rhaid i staff fod yn ymwybodol o fynediad i dechnoleg fel minicom, ffôn testun a gwasanaethau fel BT Type Talk er mwyn hwyluso defnydd o'r gwasanaeth.
O dan y Ddeddf mae gan blant ac oedolion anabl hawl i gael eu cynnwys mewn addysg prif-ffrwd cyn-16 ac ôl-16, a hawl i sicrhau bod eu gofynion o ran mynediad yn cael eu bodloni.
Mae gan sefydliadau addysg ddyletswydd i gynnwys pobl anabl, gwneud darpariaeth ar gyfer eu gofynion mynediad, a dileu neu leihau rhwystrau ffisegol, rhwystrau o ran agweddau a rhwystra sefydliadol a allai atal pobl anabl rhag dysgu a chystadlu ar yr un telerau â myfyrwyr nad ydynt yn anabl.
Enghraifft: Dylai cwmni Theatr Mewn Addysg sicrhau bod ei gynyrchiadau a'i weithdai yn hygyrch i blant anabl.
Daeth y Ddyletswydd Cydraddoldeb i Bobl Anabl i rym ar 4ydd Rhagfyr 2006. Mae'r ddyletswydd hon yn gofyn i bob corff cyhoeddus edrych o ddifrif ar ffyrdd o sicrhau y caiff pobl anabl eu trin yn gyfartal.
Rhaid i bawb a gwmpesir gan y ddyletswydd gynhyrchu Cynllun Cydraddoldeb i Bobl Anabl y mae'n rhaid iddynt ei roi ar waith.
Dyma enghreifftiau o gyrff cyhoeddus:
Ym mis Hydref 2007, daeth y Comisiwn Hawliau Anabledd, y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a'r Comisiwn Cyfle Cyfartal i ben. Bellach mae'r materion a gwmpaswyd gan dri chomisiwn gwahanol yn cael eu cwmpasu gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
"Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn eiriolwr dros gydraddoldeb a hawliau dynol i bawb, ac mae'n gweithio i ddileu gwahaniaethu, lleihau anghydraddoldeb, diogelu hawliau dynol a chreu perthnasoedd da, gan sicrhau bod pawb yn cael cyfle teg i gyfranogi mewn cymdeithas."
Disgwylir y bydd y Comisiwn yn cael ei atgyfnerthu gan newidiadau yn y gyfraith, ond nid yw'n sicr eto a gaiff hyn ei gyflawni drwy ddiwygio deddfwriaeth bresennol neu drwy ei disodli gydag un Ddeddf Cydraddoldeb.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am faterion yn ymwneud ag anabledd ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Llinell Gymorth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru
Rhadbost RRLR-UEYB-UYZL
Llawr 1af, 3 Callaghan Square, Caerdydd, CF10 5BT
0845 604 8810 Ð Prif rif ffôn Cymru
0845 604 8820 Ð Ffôn testun Cymru
0845 604 8830 Ð Rhif ffacs Cymru