Y peth pwysicaf y gallwch wneud yw edrych am gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau actio ac i ennill cyn gymaint o brofiad ag sy'n bosibl. Efallai hoffech fynychu hyfforddiant ffurfiol mewn ysgol ddrama neu brifysgol (e.e. Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru), neu dalu am ddosbarthiadau neu weithdai preifat. Gallech hefyd ymuno â grwp amatur neu sefydliad cymunedol sy'n cynhyrchu dramâu. Os yr ydych o dan 18 efallai y byddech yn hoffi ymuno â grwp theatr ieuenctid, neu efallai gallech berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae nifer o gyfleoedd ar gael, felly cysylltwch a'ch theatr, prifysgol, neu swyddfa Cyngor Celfyddydau lleol i gael gwybodaeth am beth sy' 'mlaen, neu edrychwch ar y wê (e.e. mae gan gwefan Theatre Wales restrau eang o gwmnau theatr).
I helpu gyda'r gost, mae grantiau hyfforddiant rhwng £250 - £2,000 ar gael o Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r grantiau hyn ar gael i bobl sy'n byw yng Nghymru sy' dros 16 sydd ddim yn mynychu cwrs addysg llawn-amser.
Cofiwch fod gan sefydliadau a gr?piau ddyletswydd i fod yn hygyrch, felly gwnewch yn siwr eich bod yn glîr ynglyn â'ch anghenion.
Mae'n gallu bod yn anodd iawn i ennill bywoliaeth trwy actio, felly mae'n bwysig i fod yn amlddoniog ac yn barod i ddatblygu ystod eang o sgilliau. Gall hyn gynnwys gweithio o fewn Theatr Mewn Addysg, theatr ieuenctid, prentisiaethau, gwaith amatur a chymunedol, gwaith teledu, a hefyd bod yn rhan o redeg cynhyrchiadau gan weithio fel cyfarwyddwr neu fel rheolwr llwyfan.
Paratowch CV a ffotograff. Gwnewch yn siwr bod y CV yn glîr ac yn gryno, a dylai'r ffotograff fod yn un da, syml, du a gwyn o'ch pen a'ch ysgwyddau. Danfonwch nhw at gyfarwyddwyr castio, grwpiau drama, ac i unrhywun a fydd yn gallu cynnig gwaith.
Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod am y cyfleoedd diweddaraf. Cysylltwch â grwpiau a sefydliadau drama a gofynnwch i gael eich rhoi are eu rhestrau postio. Gallwch ddarllen hefyd am glyweliadau o fewn cyhoeddiadau fel The Stage ac ar wefan Theatre Wales. Gallech hefyd gysylltu a'r BBC i gael eich cynnwys ar eu rhestr o actorion anabl - Disabled Actors and Performers Directory (Ebost: diversity.centre@bbc.co.uk, Ffôn: 020 8752 5942).
Mae nifer o grantiau ar gael o Gyngor Celfyddydau Cymru i ariannu prosiectau, ac mae benthyciadau di-log hefyd i helpu gyda'ch costau. Mae'nt ar gael i unigolion sy'n byw yng Ngymru sy' dros 18 a ddim o fewn addysg llawn-amser.
Am flynyddoedd maeth mae pobl anabl wedi cystal â bod yn anweledig o fewn prif ffrwd y byd actio. Ond mae actorion anabl wedi bod yn brysur, yn cynhyrchu gwaith heriol a dyfeisgar o fewn theatr celfyddydau anabledd. Mae sefydliadau fel cwmni theatr Graeae wedi bod yn ennill clod yn ogystal â chodi dadleuon gyda'i gwaith sy'n cael ei arwain gan bobl anabl. Mae'nt yn cyfuno iaith arwyddion a disgrifiad clywedol, sy'n rhoi dimensiwn hollol newydd i'r cynhyrchiad. Fe wnaeth Ysgol Ddrama Anarferol Celfyddau Anabledd Cymru yn 2006 roi cyfle i actorion anabl ddatblygu sgiliau a chynhyrchu a pherfformio mewn cynhyrchiad ar y llwyfan, ac rydym yn cario Ômlaen gyda'r gwaith o gefnogi actorion anabl yng Nghymru.
Mae pethau yn dechrau newid yn y brif ffrwd - mae nifer o actorion talentog anabl yn dechrau dod i'r golwg wrth i'r rhwystrau sy'n cael eu creu gan anffafriaeth ddechrau ymddatod. Ym Mhrydain mae actorion fel Mat Fraser (Cast Offs, Every Time You Look at Me), Julie Fernandez (The Office), a Paul Henshall (I'm With Stupid, Holby City), yn ymddangos ar ein sgrîniau teledu.
Profwch waith gan actorion a chwmnau theatr anabl - efallai y byddwch yn cael eich ysbrydoli, ac efallai hefyd y byddwch yn gwneud cysylltiadau defnyddiol wrth y bar ar ôl y sioe! Ewch i weld gwaith gan gwmnau Cymreig fel Odyssey Theatre, UCAN Productions (yn gweithio gyda phobl ifanc), a thu allan i Gymru mae Graeae, Mind the Gap, Deafinitely Theatre (yn gweithio gyda phobl Byddar), Extant (yn gweithio gyda phobl â nam ar eu golwg). Mae cymaint ar gael - darllennwch ein Be' Sy' 'Mlaen i gael y gwybodaeth diweddaraf am deithiau Cymreig.
Sandra Wynne (Uwch Swyddog Theatr a Drama)
Cyngor Celfyddydau Cymru
Bute Place
Caerdydd CF10 5AL
Ffôn: 0845 8734 900
Ffacs: 029 20441 400
Minicom: 029 2039 0027
Ebost: siri.wigdel@artswales.org.uk
W: www.celfcymru.org
Cymdeithas Ddrama Cymru
Yr Hen Lyfrgell,
Singleton Road,
Splott
Caerdydd CF24 2ET
Ffôn: 029 2045 2200
Ffacs: 029 2045 2277
Ebost: aled.daw@virgin.net
Mae "An Actor's Life's For Me" yn erthygl a gafodd ei ysgrifennu gan Ewan Marshall i wefan Ouch y BBC. Mae'n cynnig cyngor pwysig i bobl anabl sydd am actio. Go to the website
Mae Contacts yn cael ei gyhoeddi gan Spotlight, ac mae'n lawlyfr hanfodol i unrhywun sy'n gweithio neu am ddechrau gweithio yn niwydiant adloniant. Mae'n helpu pan yn edrych am asiant neu gyfarwyddwr castio, theatr neu ystafell ymarfer, ffotograffydd neu hyfforddwr llais, wigiau neu propiau. Cost: £12.50 o wefan Spotlight.
Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
The Conference of Drama Schools Ltd (CDS)
Cyngor Celfyddydau Cymru - yn cynnwys cronfa ddata celfyddydol o ddigwyddiadau, manylion am grantiau a cysylltiadau defnyddiol.
Disability Arts Online - gwaith gan artistiaid anabl ac artistiaid byddar.
ELAN (European Live Arts Network) Wales
Equity - yr Undeb Llafur Prydeinig sy'n cynrychioli perfformwyr proffesiynol a gweithwyr creadigol arall.
National Council for Drama Training (NCDT)
Oren (Asiantaeth Cyd-reolaeth actorion - Castio Caerdydd gynt)
Theatre Wales - gwefan cynhwysfawr theatr a pherfformio, sy'n cynnwys newyddion, adolygiadau a chyfleoedd.
visABLE People (asiant castio i actorion a modelau anabl)