Neidio i'r prif destunn
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Cyngor Hanfodol i Ddawnswyr Anabl

Datblygwch eich sgiliau

Fel dawnsiwr mae'n hanfodol i gadw gwthio'ch hunan i wella yn dechnegol ac i archwilio dulliau eraill o ddawns.

Datblygwch eich sgiliau dawns drwy fynychu cyrsiau hyfforddiant. Mae amrywiaeth enfawr o gyrsiau yn cael eu rhedeg dros Gymru a thu hwnt. Mae rhai ohonynt yn gyrsiau sydd wedi cael eu cynllunio i fod yn gynhwysol. Gwnewch dipyn o ymchwil i ddewis y cwrs gorau i chi, a cofiwch bod gan ddarparwyr hyfforddiant ddyletswydd i sicrhau eu bod yn hygyrch i'ch anghenion, felly byddwch yn glir ac yn bendant. Efallai byddai gweithdai Camau Mewn Amser Dawns Gymuned Cymru yn opsiwn da i chi.

I helpu gyda'r gost, mae grantiau hyfforddiant rhwng £250 - £2,000 ar gael o Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae'r grantiau hyn ar gael i bobl sy'n byw yng Nghymru sy' dros 16 sydd ddim yn mynychu cwrs addysg llawn-amser.

Allan i'r byd mawr!

Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod am y cyfleoedd diweddaraf. Cysylltwch â chwmniau a sefydliadau dawns a gofyn i gael eich rhoi ar eu rhestrau postio, a darllennwch am glyweliadau mewn cyhoeddiadau fel The Stage

Mae cydweithredu hefyd yn ffordd wych o greu gwaith newydd. Ydych chi wedi cysidro gweithio gydag unigolion arall / sefydliadau ar brosiect dawns neu cymysg gelfyddyd? Efallai eich bod yn adnabod artistiaid arall yn barod a fyddai'n gallu cydweithio gyda chi i greu rhwybeth newydd cyffrous.

Mae nifer o grantiau ar gael o Gyngor Celfyddydau Cymru i ariannu prosiectau, ac mae benthyciadau di-log hefyd i helpu gyda'ch costau. Mae'nt ar gael i unigolion sy'n byw yng Ngymru sy' dros 18 a ddim o fewn addysg llawn-amser.

Cewch eich ysbrydoli gan ddawnswyr anabl arall

Mae dawnswyr anabl yn creu gwaith heriol a deifiol o safon uchel dros Brydain ac yn ryngwladol. Efallai y byddech â diddordeb cysylltu â rhai o'r cwmniau hyn i gael gwybodaeth am weithdai neu glyweliadau.

Mae cwmniau fel CandoCo yn datgan ar eu gwefan eu bod yn "...gwthio ffiniau dawns cyfoes heibio'r disgwyliadau arferol ac ehangu beth mae pobl yn meddwl yw dawns a phwy all ddawnsio."

Yng Nghymru, mae uhhuh dance company yn creu gwaith diddorol, ac ar arfordir Cymru mae Blue Eyed Soul Dance Company, yn Amwythig.

Mae cwmn•au arall diddorol yn cynnwys cwmni dawns cynhwysol StopGAP yn Surrey, cwmni dawns Anjali sy'n gweithio gyda dawnswyr ag anableddau dysgu yn Lloegr, a Common Ground Sign Dance Theatre a Signdance Collective sy'n gweithio gyda dawnswyr Byddar i greu ymgyfuniad o iaith arwyddion a dawns.

Gallech hefyd edrych ar ÒThe Cost of LivingÓ, ffilm fer a gynhyrchwyd gan DV8 Physical Theatre sydd wedi ennill nifer o wobrwyon. Seren y ffilm yw'r dawnsiwr anabl hynod o dalentog, David Toole (www.dv8.co.uk).

Cysylltiadau hanfodol

Siri Wigdel (Uwch Swyddog Dawns)
Cyngor Celfyddydau Cymru
Bute Place
Caerdydd CF10 5AL
Ffôn: 0845 8734 900
Ffacs: 029 20441 400
Minicom: 029 2039 0027
Ebost: siri.wigdel@artswales.org.uk
Wê: www.celfcymru.org

Dawns Gymuned Cymru
Sbectrwm
Heol Bwlch
Y Tyllgoed
Caerdydd CF5 3EF
Ffôn: 02920 575075
Ffacs: 02920 575073
Ebost: info@communitydancewales.com
Wê: www.communitydancewales.com

Darllen hanfodol

Potential - Dance and Disabled People e-newsletter sy'n cael ei gyhoeddi gan Foundation of Community Dance. Mae'n llawn newyddion a chyfleoedd i ddawnswyr anabl. Cliciwch yma i fynd i'r wefan, yna chwilio am "disabled people" i ymuno a rhestr y cylchlythyr.

Cyhoeddwyd Dawns o Gymru: Ymarfer Annibynnol gan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn 2008, ac mae'n trafod gwaith deuddeg o ddawnswyr annibynnol gorau Cymru (www.wai.org.uk).

Gwefannau hanfodol

Cwmn•au dawns cymunedol yng Nghymru:

Celfyddydau Cymuned Cwm a Bro: www.valleyandvale.co.uk

Celfyddydau Cymuned Rhondda Cynon Taf: www.rctca.org.uk

Dawns Gymuned Cymru: www.communitydancewales.com

Dawns i Bawb (gogledd-orllewin Cymru): www.dawnsibawb.org

Dawns TAN Dance (Abertawe a Phort Talbot): www.tandance.org

Dawns Powys: www.powys.gov.uk/index.php?id=4991

Rubicon (Caerdydd a Chasnewydd): www.rubicondance.co.uk

Cwmn•au dawns arall Cymreig:

Cymdeithas Ddawns Werin Cymru: www.welshfolkdance.org.uk

Dawns Annibynnol Cymru (WID) (sefydliad cenedlaethol i artistiaid dawns proffesiynol yng Nghymru): www.welshindance.co.uk

Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (i bobl ifanc rhwng 14 - 21): www.nyaw.co.uk/e_nydw.html

Dawns Gogledd-Ddwyrain Cymru: www.newdance.org.uk

Diversions, Cwmni Dawns Cymru: www.diversionsdance.co.uk

Earthfall (Cwmni dawns a theatr corfforol yng Nghaerdydd): www.earthfall.org.uk

Gwefanau defnyddiol arall:

BBC Blast Dance (gwefan i ddawnswyr ifanc, yn cynnwys lot fawr o gyngor gyrfaol): www.bbc.co.uk/blast/dance

Council for Dance Education and Training (gwybodaeth am hyfforddiant, yn cynnwys hyfforddiant i ddawnswyr anabl): www.cdet.org.uk

Cyngor Celfyddydau Cymru - yn cynnwys cronfa ddata celfyddydol o ddigwyddiadau, manylion am grantiau a cysylltiadau defnyddiol: www.celfcymru.org

Dance UK - y llais cenedlaethol i ddawns: www.danceuk.org

Disability Arts Online - gwaith gan artistiaid anabl ac artistiaid byddar: www.disabilityartsonline.org

Equity - yr Undeb Llafur Prydeinig sy'n cynrychioli perfformwyr proffesiynol a gweithwyr creadigol arall: www.equity.org.uk

Theatre Wales - gwefan cynhwysfawr theatr a pherfformio, sy'n cynnwys newyddion, adolygiadau a chyfleoedd: www.theatre-wales.co.uk

Y Ganolfan Ymchwil Perfformio (CPR): www.thecpr.org.uk

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wê gan papergecko | xhtml | aaa | css