Neidio i'r prif destunn
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Cyngor Hanfodol i Awduron Anabl

Datblygwch eich sgiliau

Mae'r awduron gorau yn cydnabod bod wastad angen gwella.

Mae'n syniad da mynychu gweithdai / grwpiau ysgrifennu, neu cymeryd rhan mewn gweithdai wedi'u selio yn eich cartref neu ar-lein - mae cyrsiau fel hyn ar gael trwy nifer o brifysgolion.

Gofynnwch am farn pobl arall am eich gwaith. Cofiwch nad yw gofyn barn teulu a ffrindiau yn gallu bod yn hollol wrthrychol. Gyda Gwasanaeth Beirniadu Academi, er enghraifft, gall awdur profiadol asesu'ch gwaith. Cymerwch sylw o'r feirniadaeth, a defnyddiwch y sylwadau i wella'ch gwaith.

Mae Academi hefyd yn cynnig nifer o ysgoloriaethau, yn cynnwys Ysgoloriaeth Galluogi i awduron anabl hyd at £2,000. Mae'n gallu talu am gyfarpar arbenigol, costau teithio, cymorth ysgrifenyddol, a hyfforddiant.

Allan i'r byd mawr!

Danfonwch eich gwaith i gyhoeddwyr, cystadleuthau, cylchgronau ar-lein... ond gwnewch yn siwr eich bod yn danfon eich gwaith gorau. Cofiwch hefyd i fod ag amynedd - mae'n debygol y byddwch yn gorfod aros am amser hir am ymateb. Cofiwch gadw gopi o'r hyn yr ydych yn danfon.

PWYSIG: Peidiwch byth a thalu i gael eich gwaith wedi'i gyhoeddi. Mae nifer fawr o bobl diegwyddor yn aros yn eiddgar i'ch cafflo i wahanu gyda'ch arian.

Hawlfraint - O dan gyfraith Prydeinig, mae'r hawlfraint yn bod o'r foment mae'r gwaith yn cael ei greu. Nid oes rhaid i chi wneud dim i hawlio'r hawl honno. Mae'r hawlfraint yn gwarchod eich ysgrifennu ond nid y syniadau a gynhwysir yn y gwaith.

Cewch eich ysbrydoli gan awduron anabl arall

Efallai y byddai'n ddiddorol i chi ddarllen gwaith gan awduron anabl arall. Ydych chi wedi cysidro ysgrifennu am eich profiadau fel person anabl?

Gallech ddechrau gyda barddoniaeth Sue Napolitano, antholeg o ysgrifennu gan fenywod anabl "Musn't Grumble" wedi'i olygu gan Lois Keith, hunangofiant Rosaleen Moriarty-Simmonds - "Four Fingers and Thirteen Toes", cyfweliadau Maggie Hampton â menywod anabl yn y celfyddydau "Living Where the Nights Jive", ac antholeg Celfyddydau Anabledd Cymru "Gwir a Grymus: Ysgrifennu gan Bobl Anabl yng Nghymru".

Cyswllt Hanfodol

Cysylltwch ag Academi, yr Asiantaeth Genedlaethol er Hyrwyddo Llenyddiaeth a Chymdeithas Llenorion Cymru, am gyngor pellach. Dyma eu manylion cyswllt...

Academi,
3ydd Llawr,
Ty Mount Stuart,
Sgwâr Mount Stuart,
Caerdydd CF10 5FQ.
Ffôn: 029 2047 2266
Ffacs: 029 2049 2930
Ebost: post@academi.org
Wê: www.academi.org

Darllen Hanfodol

Mae blwyddiadur Macmillan - "The Writer's Handbook" - yn llawn gwybodaeth defnyddiol iawn.

Gwefannau Hanfodol

Arvon Foundation - cyrsiau preswyl ysgrifennu creadigol.

BBC Writers Room - ysgrifennu i ffilm, teledu a radio.

Beyond the Border Festival - Gwyl Adrodd Straeon Rhyngwladol Cymru.

Canolfan Dylan Thomas - canolfan yn Abertawe sy'n rhedeg digwyddiadau a gweithdai llenyddol.

Cyngor Celfyddydau Cymru - yn cynnwys cronfa ddata celfyddydol o ddigwyddiadau a cysylltiadau defnyddiol.

Cyngor Llyfrau Cymru - corff cenedlaethol cyhoeddi yng Nghymru.

Disability Arts Online - gwaith gan artistiaid anabl ac artistiaid byddar.

Disability Writes - yn cefnogi ysgrifennwyr anabl.

Gwyl y Gelli (Hay Festival of Literature and the Arts)

Lapidus - geiriau creadigol ar gyfer iechyd a lles.

Literaturetraining - yn cefnogi datblygiad profesiynol ysgrifennwyr.

National Association of Writers Groups

Sherman Cymru - ysgrifennu newydd I'r llwyfan.

Ty Newydd - canolfan preswyl i awduron ger Cricieth yng ngogledd Cymru.

Writernet - gwybodaeth i ddramodyddion, sy'n cynnwys canllaw i ysgrifennwyr anabl.

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wê gan papergecko | xhtml | aaa | css