Dylai pob deunydd cyhoeddusrwydd printiedig gynnwys manylion ar fynediad. Defnyddiwch gymaint â phosibl o symbolau i sicrhau eglurder.
Os nad oes digon o ofod ar gyfer yr holl fanylion mynediad ar y daflen wybodaeth, nodwch fod gwybodaeth ar fynediad ar gael trwy wneud cais amdani - rhowch rif ffôn ac argraffwch y wybodaeth ar daflen, y gellir wedyn ei hanfon os gofynnir am y wybodaeth.
Dilynwch arferion da mewn print (Am fanylion am symbolau ac arferion da, cysylltwch â Chelfyddydau Anabledd Cymru)
Dylai staff fod yn ymwybodol o'r holl gyfleusterau sydd ar gael ar gyfer pobl anabl, a dylent fod yn ddigon hyderus i gyfleu'r wybodaeth dros y ffôn.
Amgaewch fap
Manylion am drafnidiaeth gyhoeddus, os yn berthnasol
Dangoswch feysydd parcio (os nad oes parcio preifat, dangoswch y meysydd parcio cyhoeddus agosaf)
Rhowch fanylion am gyfleusterau parcio ar gyfer pobl anabl
Rhowch syniad o'r pellter rhwng y meysydd parcio a'r lleoliad.
Os oes angen cadw lle parcio ar gyfer gyrwyr anabl ymlaen llaw, dylech nodi hyn yn eglur ar y ffurflen archebu.
Rhaid sicrhau bod to uwch ei phen. Os yw'r digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr awyr agored, codwch adlen fel cysgod.
Trefnwch fod cadeiriau wrth law fel bod pobl yn cael gorffwys tra'n aros
Dylai'r ddesg ei hun fod yr un uchder â bwrdd fel ei bod yr un mor hwylus i ddefnyddwyr cadair olwyn a phobl fyr.
Dylai'r staff wrth y ddesg wybodaeth fod yn ymwybodol o'r cyfleusterau sydd ar gael ar gyfer pobl anabl. Dylai'r wybodaeth hon fod ar gael ar daflen i'w dosbarthu.
Penderfynwch ar gynllun unffurf ar gyfer eich arwyddion.
Darparwch arwyddion i gyfeirio pobl i'r meysydd parcio, lleoliad(au), toiledau, toiledau pobl anabl, y ddesg wybodaeth, canolfan cymorth cyntaf, a'r allanfa.
Mae'n ddigon hawdd cynhyrchu arwyddion ar brosesydd geiriau, ac yna'u lamineiddio.
Lliwiau delfrydol: print du trwm ar gefndir melyn
(Os byddwch yn dewis lliwiau eraill, dylai'r print fod yn drwm a thywyll gyda chefndir golau.)
Gwnewch yn siwr bod pegiau a chortynnau pebyll wedi'u gorchuddio gyda gorchuddion 'rhybudd' melyn.
Dylech sicrhau bod stiwardiaid wrth law, yn enwedig mewn mannau lle mae'r tir yn anwastad
Gofalwch nad oes biniau sbwriel a hysbysfyrddau wedi eu rhoi mewn mannau lle gallant fod yn rhwystr.
Gwnewch yn siwr bod yr eiliau'n ddigon llydan i alluogi pobl i droi
Cofiwch ganiatáu digon o le i goesau pobl rhwng rhesi o seddi. Byddai'n syniad da caniatáu mwy o le rhwng rhai rhesi; byddai pobl sy'n ei chael yn anodd i symud, a phobl gyda chyn cynorthwyo yn gwerthfawrogi hyn.
Pan fyddwch yn gosod seddi, dylech ganiatáu digon o le ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn; bydd pobl fel arfer yn dewis eistedd gyda'u ffrindiau, yn hytrach na mewn rhes gyda defnyddwyr cadair olwyn eraill, felly ceisiwch gadw'ch trefniadau'n hyblyg.
Dylai stiwardiaid fod yn ymwybodol o drefniadau seddi priodol ar gyfer pobl anabl, a dylent fedru cyfarwyddo pobl gyda hynny mewn cof.
Bydd llawer o bobl fyddar yn elwa ar ddefnydd o ddolen sain. Gellir llogi systemau dolen sain symudol ar gyfer digwyddiadau dros dro. Gall Cyngor Cymru i'r Byddar (CCB, Glenview House, Courthouse Street, Pontypridd, CF37 1JY. Ffôn: 01443 485 687) eich helpu.
Dylai'r holl stiwardiaid a'r staff a fydd yn delio â'r cyhoedd fod yn ymwybodol o'r holl drefniadau mynediad ar gyfer yr wyl.
Dylai'r staff fod yn ddigon hyderus i gyfathrebu â phobl anabl, gan gynnwys pobl â nam ar eu clyw a/neu eu lleferydd.
Dylid asesu gofynion hyfforddi stiwardiaid a staff blaen ty, a dylid darparu hyfforddiant ar eu cyfer cyn yr wyl os bydd angen.
Cysylltwch â ni am ragor o gyngor a gwybodaeth ar unrhyw un o'r materion uchod.