Gweithio gyda Chyflogeion ac Artistiaid Anabl
Dangosodd cyfrifiad 2001 bod bron i chwarter poblogaeth Cymru yn anabl - ond mae llai na .05% o weithwyr yn y celfyddydau yn anabl.
Mae pobl anabl wedi arfer bod yn greadigol ynghylch sut y maent yn trefnu eu bywydau; gall gwahanol ffyrdd o weithio ac ymagweddau creadigol newydd fod o fudd mawr i'r celfyddydau.
Recriwtio
Pwyntiau gweithredu
- Gwiriwch gynllun yr hysbyseb swydd. Bydd hysbyseb sy'n hawdd i'w ddarllen yn denu mwy o geisiadau
- Ysgrifennwch yr hysbyseb mewn ffordd a fydd yn annog pobl anabl i ymgeisio amdani ee 'Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl anabl, nad oes cynrychiolaeth ddigonol ohonynt yn Mountainside Arts ar hyn o bryd'
- Hysbysebwch yn y wasg anabl a'r wasg celfyddydau i bobl anabl a defnyddiwch e-lythyrau a hysbysfyrddau
- Rhowch ddewis eang o opsiynau i ddarpar ymgeiswyr gysylltu â'r sefydliad ee ffôn, ffacs, e-bost, post
- Pecyn cais ar gael yn electroneg, ar dâp sain a phrint bras yn ogystal ag ar bapur
- Gwahoddwch geisiadau trwy'r cyfryngau hyn hefyd
- Gwiriwch y meini prawf hanfodol a dymunol ar gyfer y manyleb person e.e.
- A oes gwir angen i'r ymgeisydd allu gyrru?
- Ydy hi'n ddigonol eu bod yn barod i deithio? Mae'n bosibl na all pobl anabl yrru am nifer o resymau, ond efallai eu bod yn cyflogi gyrrwr, neu'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
- Gofynnwch i bob ymgeisydd sydd ar y rhestr fer roi gwybod i chi os oes angen trefnu mynediad penodol ar gyfer y cyfweliad, a gwnewch drefniadau fel bo'r angen
- Anfonwch wybodaeth ynglŷn â mynediad i'r swyddfa/lleoliad. Dylai pob ymgeisydd dderbyn y wybodaeth hon. Os yw eich swyddfa neu gefn y llwyfan yn hygyrch yna dylid tynnu sylw at hynny!
- Yn y cyfweliad gofynnwch i bob ymgeisydd a oes ganddynt anghenion mynediad yn y gwaith - neu, 'A oes unrhyw beth penodol y byddwch ei angen ar gyfer mynediad i'r gweithle, neu a oes rhywbeth penodol y gallwn ni fel cyflogwyr ei wneud?'
Wyddech chi? Mae gan yr Adran Gyflogaeth Gynllun Mynediad i'r Gwaith er mwyn helpu gyda chostau sy'n gysylltiedig â chyflogi person anabl.
Gweithio gydag artistiaid anabl
Gall artistiaid, perfformwyr, awduron, arweinwyr gweithdai anabl weithio gyda'ch sefydliad ambell dro. Yn aml bydd rhaglennu gwaith gan artistiaid anabl yn help i ddatblygu cynulleidfa o bobl anabl.
Pwyntiau gweithredu
- Anfonwch wybodaeth am fynediad i'r lleoliad. Dylai pob artist sy'n ymweld â'r lleoliad dderbyn y wybodaeth hon. Amlygwch unrhyw nodweddion mynediad penodol, a byddwch yn onest am y cyfleusterau. Os oese angen dringo tair gris i gael mynediad i ran arbennig o'r adeilad yna dywedwch hynny.
- Gofynnwch i bob artist sy'n ymweld â'r lleoliad a oes ganddynt anghenion mynediad, hyd yn oed os nad yw pobl wedi dweud eu bod yn anabl.
- Os ydych yn ansicr o'r union ofynion, holwch y person dan sylw ymhell ymlaen llaw.
- Rhowch wybod i'r bobl berthnasol yn eich sefydliad beth yw gofynion mynediad yr artist.
- Holwch yr artist pan fydd yn cyrraedd ac yn ystod y prosiect neu'r ymweliad i sicrhau bod y trefniadau mynediad yn addas.
Arfer gorau
Dylai pob sefydliad gynnal archwiliad blynyddol o anghenion mynediad eu staff a'u hymddiriedolwyr. Dylid gofyn yr un cwestiwn i bob person, hyd yn oed os nad ydynt wedi nodi eu bod yn anabl.
- Wrth gynllunio'r archwiliad, sicrhewch fod eich cwestiynau yn canolbwyntio ar fynediad / anghenion y gweithiwr / beth all y cyflogwr ei wneud.
- Peidiwch â chanolbwyntio ar faterion meddygol. Ni fydd gofyn 'beth sy'n bod arnoch chi?' yn eich helpu i sicrhau bod y mynediad yn gywir. Mae gan bob unigolyn anghenion penodol, ac efallai y byddant yn wahanol i'r hyn yr oeddech yn tybio.
Gwybodaeth Bellach
Gwefan Mynediad i Waith y Ganolfan Byd Gwaith
Gwefan Fforwm Anabledd i Gyflogwyr