Neidio i'r prif destun
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Gwneud Gwelliannau i fynediad ffisegol

Ar gyfer yr arferion gorau mewn materion mynediad, meddyliwch y tu hwnt i gydymffurfio â'r Ddeddf. Bydd unrhyw welliannau i fynediad ffisegol o les i'ch ymwelwyr, staff ac artistiaid, ac yn ffordd o ddenu cynulleidfa llawer ehangach.

Efallai eich bod eisoes yn ymwybodol o rai o'r newidiadau sydd angen eu gwneud, ond mae'n syniad da cynnal archwiliad syml o fynediad yn gyntaf. Gelir prynu templed archwilio ar gyfer mynediad i adeiladau gan sefydliadau megis y Centre for Accessible Environment. Dylech gynnwys pobl anabl bob tro wrth gynnal archwiliad o fynediad.

Mae mynediad i fannau cyhoeddus yn bwysig, ond dylech dalu'r un sylw i fynediad i gefn y llwyfan, mannau ymarfer, gweithdai, swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod.

Y tebygrwydd yw na fydd unrhyw leoliad yn cynnig mynediad perffaith i bawb. Gall rhoi gwybodaeth onest a manwl ynglŷn â mynediad alluogi pobl i wneud eu penderfyniad eu hunan ynglŷn ag ymweld â'r safle neu weithio yno.

Pwyntiau Gweithredu

Cynllunio

Gwaith sy'n mynd rhagddo

Gwaith wedi'i gwblhau

Darllen pellach

Designing for Accessibility * Andrew Lacey 2004 (ISBN 1-85946-143-3)

Access Audit Handbook * Alison Grant 2005 (ISBN 1-85946-177-8)

Museums and Art Galleries: Making Existing Buildings Accessible * Adrian Cave 2007 (ISBN 978-1-85946-75-4)

* ar gael gan y Centre for Accessible Environments

Building Sight Llawlyfr ar adeiladu a chynllunio mewnol ar gyfer anghenion pobl â nam ar eu golwg. Peter Barker, John Barrick a Rod Wilson 1995. Ar gael o siop yr RNIB

Gwefan JMU Access Partnership

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css