Neidio i'r prif destun
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Gweithdai Hygyrch

Os ydych am redeg gweithdai sydd â'r nod o gynnwys a rhoi mynediad i bawb, neu weithdai ar gyfer pobl anabl yn benodol, dewiswch arweinwyr eich gweithdai yn ofalus. Mae ymarferwyr gyda phrofiad o gynnal gweithdai sy'n rhoi mynediad i bobl anabl i'w cael ym mhob maes o'r celfyddydau. Bydd profiad yr ymarferwyr yn gwahaniaethu'n sylweddol, felly mae'n well cael argymhellion gan sefydliadau celfyddydol sydd wedi gwneud gwaith tebyg, neu gan sefydliadau i bobl anabl fyddai'n debygol o fod wedi bod yn rhan o brosiectau celfyddydol o'r blaen.

Mae mynediad yn ymwneud a chyfathrebu, goleuo, cynhesrwydd, acwstig a llefydd parcio yn ogystal â lloriau gwastad a thoiledau hygyrch. Gall ystafell gyda wal wydr a llawr disglair fod yn hunllef i bobl gyda nam ar eu golwg. Yn yr un modd, gall acwstig sy'n bownsio i bob cyfeiriad greu anawsterau i bobl sy'n defnyddio offer clywed a phobl sy'n sensitif i sŵn. Mae'n werth cymryd amser i wneud yn siŵr bod y sesiwn yn cael ei chynnal mewn lle hygyrch, ac y bydd pawb yn gallu cyfathrebu'n hawdd.

Pwyntiau gweithredu

Camau cynllunio

Pan fydd arweinwyr y gweithdai wedi eu pennu

Pan fydd pobl yn archebu lleoedd ar gyfer y gweithdai

Wrth baratoi lleoliad y gweithdy

Pan fydd pobl yn cyrraedd

Tra bydd y prosiect yn mynd rhagddo

Pan fydd y prosiect wedi dod i ben

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css