Neidio i'r prif destunn
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Iaith ac Anabledd

Mae pobl yn pryderu am ddefnyddio'r geiriau anghywir ac achosi tramgwydd i bobl anabl; maent am wybod pa eiriau y gallant eudefnyddio'n ddiogel, a pha rai y dylent eu hosgoi.

Mae'n bwysig bod pobl anabl yn arwain y ddadl ynghylch yr iaith a'r derminoleg sydd orau ganddynt, a dyna pam yr ydym yn cymryd y termau a ffefrir gan y mudiad pobl anabl.

Dylai'r derminoleg isod fod yn ddigonol ar gyfer defnydd cyffredinol, ond os nad ydych yn siŵr gofynnwch i bobl anabl beth yr hoffent gael eu galw a sut yr hoffent gael eu disgrifio. Os nad yw hyn yn briodol, cysylltwch â Chelfyddydau Anabledd Cymru a all roi cyngor i chi neu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun arall a all eich helpu.

Termau a ffefrir

Er y gellir defnyddio'r term 'pobl anabl' yn eithaf eang fel term cyffredinol, yr eithriad yw pan gyfeirir at Bobl fyddar o'r gymuned Fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel eu hiaith gyntaf. Mae pobl fyddar yn ystyried eu hunain yn lleiafrif ieithyddol y mae pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn ar sail iaith. Gall persbectif y gymuned fyddar ar wahaniaethu fod yn wahanol iawn i bersbectif pobl sydd wedi'u byddaru neu bobl trwm eu clyw sydd wedi colli eu clyw yn ddiweddarach mewn bywyd ac y mae iaith lafar yn iaith gyntaf iddynt yn hytrach nag iaith arwyddion.

Termau i'w hosgoi

Beth i'w ofyn: canolbwyntiwch ar anghenion mynediad bob amser yn hytrach na label meddygol person. Mae 'A oes gennych unrhyw ofynion mynediad?' neu 'Beth allwn ni ei wneud i'ch helpu?' yn gwestiynau llawer mwy defnyddiol na 'Beth yw'r nam sydd arnoch?' neu (plîs, na!) 'Beth sy'n bod arnoch chi'?

Mae llawer o bobl yn cael eu drysu neu'n mynd yn rhwystredig oherwydd bod term a oedd yn gwbl dderbyniol yr wythnos diwethaf yn annerbyniol yr wythnos hon. Tair enghraifft dda o hyn yw'r termau 'anghenion arbennig', 'pobl abl', a 'phobl ag anableddau'.

Mae 'anghenion arbennig' yn parhau i gael ei ddefnyddio'n eang, yn arbennig yn y byd addysgol, ond nid yw hynny'n ei wneud yn dderbyniol - mae pobl anabl wedi cael llond bol ar fod yn 'arbennig', Mae'n well canolbwyntio ar gyfleoedd cyfartal, nid triniaeth arbennig.

Mae 'abl' yn awgrymu rhagoriaeth gorfforol neu feddyliol, ac mae hyn yn anghywir ac yn nawddoglyd. Mae'r defnydd o'r term 'pobl nad ydynt yn anabl' fodd bynnag, yn cyfeirio at berson nad yw cymdeithas yn ei wneud yn anabl yn unol â'r Model Cymdeithasol o Anabledd.

Roedd 'pobl ag anableddau' yn boblogaidd am flynyddoedd, ond mae'n derm eithaf meddygol ac yn canolbwyntio'n ddiangen ar y nam. Defnyddiwch derm y Model Cymdeithasol - 'pobl anabl' sy'n golygu pobl y mae cymdeithas yn eu gwneud yn anabl.

Dim ond pan mae gwirioneddol raid y dylid defnyddio labeli. Mae'n llawer gwell defnyddio enwau pobl neu ddefnyddio pa bynnag derminoleg (cwsmer, cyfranogwr ac ati) y byddech yn ei ddefnyddio ar gyfer pawb arall.

Peidiwch â phoeni ynghylch ailddyfeisio'r defnydd o iaith. Yr ydym oll yn defnyddio ymadroddion fel 'ydych chi'n gweld beth yr wyf yn ei olygu?' a 'cerddwch y ffordd hyn' ac 'ydych chi wedi clywed ganddo?'. Peidiwch â theimlo bod yn rhaid i chi wneud ymdrech arbennig i osgoi'r termau hynny pan fyddwch yn siarad â phobl anabl.

Yn anad dim, peidiwch â phryderu cymaint am yr iaith nes eich bod yn peidio â siarad â phobl anabl. Mae deialog yn hollbwysig os ydym am gyd-fyw mewn cymdeithas fwy cynhwysol. Os yw eich agwedd yn briodol ac os ydych yn barod i wrando a dysgu, byddent yn maddau i chi am ddefnyddio ambell ymadrodd yn ddifeddwl.

Gwneud i bobl deimlo bod croeso iddynt

Mae'r diwydiant celfyddydol yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn teimlo bod croeso iddynt - yr ydym am i artistiaid a pherfformwyr weithio gyda'ch sefydliad eto, ac yr ydych am i'r cwsmeriaid ddod yn ôl. Rydych yn gwybod beth i'w wneud gan fwyaf; mae cwrteisi a synnwyr cyffredin yn helpu i Arferion Gorau gael eu rhoi ar waith yn ddidrafferth. Felly beth ddylech chi ei wneud pan fydd pobl anabl yn gweithio gyda chi neu'n dod i'ch lleoliad neu'ch digwyddiad?

Dyma ambell senario gyfarwydd...

Defnyddiwr cadair olwyn yn cael trafferth i fynd i fyny ramp a charped arno

Gofynnwch: 'A oes angen help arnoch?'

Peidiwch â: Cherdded y tu ôl i'r person a gafael yn eu cadair heb ofyn

Person dall sy'n ansicr i ba gyfeiriad y dylai fynd

Sicrhewch eich bod yn:

Peidiwch â: Gafael ym mraich y person heb ddweud gair a'i arwain i le bynnag y maent am fynd

Rydych yn mynd y tu ôl i'r llwyfan ar ôl perfformiad gan oedolion ag anableddau dysgu, i ddweud wrth y cast cymaint yr ydych wedi mwynhau'r sioe

Sicrhewch eich bod yn: Defnyddio iaith bob dydd fel 'Fe wnes i fwynhau'r sioe yn fawr (gan nodi un neu ddau o bethau penodol) Diolch yn fawr iawn!'

Peidiwch â: Mynd dros ben llestri â churo pobl yn ysgafn ar eu pennau.

Person anabl yn cael trafferth codi

Sicrhewch eich bod yn : Dweud 'Alla i eich helpu?'

Peidiwch â: Gafael yn ei fraich a cheisio ei dynnu o'r gadair.

Weithiau gall ymddangos fel bod person anabl yn symud yn afrosgo, ond gall gafael ym mraich y person, hyd yn oed yn ysgafn, achos llawer o boen, neu achosi iddo golli cydbwysedd. Gofynnwch yn gyntaf.

Os bydd person anabl yn dweud 'Dim diolch' mewn ymateb i'ch cynnig o help

Sicrhewch eich bod yn: Dweud, 'Iawn' gan wenu

Peidiwch â: Theimlo eich bod wedi cael eich gwrthod neu bryderu eich bod wedi gwneud rhywbeth o'i le. Mae gan bawb hawl i wrthod help yn ogystal â'i dderbyn, ac yr ydych wedi gwneud y peth iawn drwy gynnig.

Mae'r 'Peidiwch â' yn yr enghreifftiau hyn yn swnio dros ben llestri braidd, ond mae pethau fel hyn yn digwydd i bobl anabl drwy'r amser, ac maent yn eu cythruddo. Mae un cyn actores yn dal i deimlo'n wallgof ar ôl i rywun ei churo'n ysgafn ar ei phen ar ôl perfformiad flynyddoedd yn ôl!

Fel gyda phawb arall, mae cwrteisi a synnwyr cyffredin yn helpu i gael gwared ar unrhyw deimladau anghysurus. Cofiwch, os oes gennych unrhyw amheuaeth, gofynnwch yn gyntaf!

Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am iaith, y ffordd orau yw dilyn esiamplau sefydliadau a arweinir gan bobl anabl:

Gwefan Celfyddydau Anabledd Cymru

Gwefan DASh (Disability Arts Shropshire)

Gwefan North West Disability Arts Forum

Gwefan DADA South

Gwefan Anabledd Cymru

Gwefan Cyngor Pobl Anabl y Deyrnas Unedig

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css