Neidio i'r prif destun
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Monitro a Gwerthuso

Monitro effeithiolrwydd y cynllun gweithredu

Yn aml ceir pryder ynghylch monitro nifer y bobl anabl sy'n rhan o brosiect, ac amharodrwydd i ofyn cwestiynau personol, ac mae hynny'n ddealladwy. Yn y rhan fwyaf o achosion ni ddylai fod angen gofyn am wybodaeth bersonol gan unigolion. Dyma rai ffyrdd o fonitro:

Gwerthuso

Dylai pob agwedd ar wasanaethau'r sefydliad sy'n cynnwys pobl anabl gynnwys gwerthusiad sy'n hygyrch i'r bobl sy'n ymateb.

Gofynnwch i bobl beth yw'r ffordd sydd orau ganddynt o gwblhau gwerthusiad; dylai cymaint o opsiynau â phosibl fod ar gael.

Ystyriwch: gamera fideo, recordydd tâp, ffurflen werthuso ar wefan, galwad ffôn, gwerthusiad ar lafar mewn grŵp, gwerthusiad ar lafar un i un.

Sicrhewch fod yr iaith ar y ffurflen werthuso yn briodol ac yn hawdd i'w deall. Ceisiwch osgoi unrhyw jargon diangen.

Pan fyddwch yn gwerthuso, gofynnwch a oedd y prosiect neu'r digwyddiad yn hygyrch, ac a oes gan yr ymatebydd unrhyw sylwadau ynghylch hygyrchedd.

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css