Gweithio mewn partneriaeth â phobl anabl
Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o ddatblygu cynulleidfaoedd o bobl anabl yw gweithio mewn partneriaeth â sefydliad anabl. Nid yn unig y mae pobl anabl yn arbenigwyr ar faterion mynediad, ond mae ganddynt hefyd rwydweithiau eang y byddai sefydliadau celfyddydol yn ei chael hi'n anodd eu cyrraedd o bosibl. Hefyd, gall pobl anabl gael golwg hollol wahanol ar ffurf o gelfyddyd sy'n dod â meddylfryd creadigol newydd i'r gwaith.
Fe fydd partneriaeth lwyddiannus yn rhoi digon o amser ar gyfer cynllunio a gweithio trwy syniadau newydd. Yn ddelfrydol bydd y naill sefydliad yn dysgu oddi wrth y llall, a bydd perthynas dda yn creu'r sylfaen i'w datblygu yn y dyfodol.
Rhai enghreifftiau o bartneriaethau:
- Prosiect gweithdy ar y cyd wedi ei arwain gan arweinwyr gweithdy o un sefydliad neu'r ddau
- Partner yn dod ac arbenigedd penodol i'ch prosiect (marchnata, dod o hyd i gyfranogwyr, cyngor ar fynediad ac ati)
- Eich sefydliad chi yn dod ac arbenigedd penodol i brosiect eich partneriaid (artistiaid, perfformwyr, arweinwyr gweithdai ac ati)
Ble i ddod o hyd i bartneriaid:
- Sefydliadau celfyddydol neu brosiectau wedi eu harwain gan bobl anabl neu eu harwain ar y cyd â phobl anabl
- Sefydliadau sy'n ymwneud â nam penodol (ar gyfer pobl fyddar, pobl ddall neu bobl â nam ar eu golwg, pobl a chanddynt anawsterau dysgu, pobl a chanddynt broblemau iechyd meddwl, ac ati)
- Ysgolion a cholegau a chanddynt fyfyrwyr anabl
- Gwasanaethau dyddiol lleol ar gyfer pobl anabl
- Grŵp anabledd neu grŵp mynediad lleol
- Gwasanaethau chwarae sy'n cynnwys plant anabl
Pwyntiau Gweithredu
Ymchwil
- Ceisiwch ddod o hyd i enghreifftiau o bartneriaethau rhwng sefydliadau celfyddydol a phobl anabl sydd wedi gweithio'n dda
- Sefydlwch amcanion cyffredinol ar gyfer eich prosiect (byddwch yn hyblyg gyda darpar bartneriaid)
- Cysylltwch â sefydliadau/grwpiau gyda'r nod o weithio mewn partneriaeth â hwy
- Trefnwch gyfarfod (gweler ymgynghori ac ymgysylltu gyda phobl anabl)
Telerau'r bartneriaeth
- Nodwch beth y mae'r naill sefydliad a'r llall yn gallu ei gynnig i'r prosiect
- Nodwch sut y byddwch yn cydweithio, ee cyfarfodydd rheolaidd, y dulliau cyfathrebu sydd orau gan y ddwy ochr.
Os oes angen codi arian
- Trafodwch pa gyrff ariannu y dylid cysylltu â hwy i gael grantiau
- Cytunwch pwy fydd yn arwain pa geisiadau am gyllid
- Trefnwch eich bod yn cymeradwyo ceisiadau sydd wedi eu harwain gan y sefydliad arall cyn iddynt gael eu cyflwyno - ac i'r gwrthwyneb
Cyn dechrau ar y prosiect
- Cytunwch pwy sy'n gyfrifol am wahanol agweddau ar y prosiect, ee archebu lleoliad, archebu artistiaid, trefnu mynediad, marchnata, monitro.