Mae'n bwysig dros ben bod gennych ffotograffau neu sleidiau da o'ch gwaith celf. Bydd y delweddau ffotograffig y byddwch yn eu creu'n cynrychioli'ch gwaith celf; gwnewch yn siwr eu bod cystal â'ch gwaith gwreiddiol. Os yw eu hansawdd yn wael, bydd adlewyrchiad gwael o'ch gwaith celf.
Os nad ydych yn hyderus gyda chamera, chwiliwch am rywun sy'n fwy medrus. Gall pâr arall o ddwylo hefyd fod yn ddefnyddiol.
Bydd unrhyw gamera bron yn gwneud y gwaith. Bydd yn haws os gallwch wneud mân addasiadau â llaw ac mae'n bwysig gallu diffodd fflach mewnol y camera. Bydd angen lens arnoch sy'n eich galluogi i ffocysu'n ddigon agos at y gwrthrych fel ei fod yn llenwi'r ffrâm. Os byddwch yn defnyddio camera digidol, cofiwch ei raglennu i dynnu llun eglurder uchel.
Clicied Cebl neu Hunan Amserydd
Mae defnyddio clicied cebl neu hunan amserydd ar y camera'n lleihau'r perygl o ysgwyd y camera'n ddamweiniol, felly bydd y llun yn gliriach.
Mae treipod yn hanfodol. Mae'n cadw'r camera'n llonydd, ac yn ei gwneud yn haws i gyfansoddi'r llun a ffocysu ar y ddelwedd. Fel gyda chlicied cebl, mae treipod yn golygu nad oes perygl y bydd y camera'n symud, gan sicrhau delwedd gliriach.
Pan fyddwch yn tynnu llun o waith celf yn yr awyr agored, tynnwch y lluniau mor agos at ganol dydd â phosibl. Rhowch y gwaith celf yn y cysgod, ac osgowch olau uniongyrchol yr haul. Gwnewch yn siwr bod y golau ar eich gwaith yn gyson. Nid yw'n hawdd rhagweld sut y bydd golau dydd yn ymddwyn, ond dyma'r ffynhonnell olau rataf.
Bydd rhaid i chi gael bylbiau golau arbennig a fydd yn goleuo'ch gwaith yn dda - byddant yn helpu i sicrhau bod y lliwiau yn y llun mor debyg â phosibl i'ch gwaith gwreiddiol (gelwir hyn yn gydbwysedd lliw). Rhowch gynnig ar ...
RHYBUDD: Gall y bylbiau hyn fod yn eithriadol o boeth. Cofiwch ddilyn y cyfarwyddiadau rhag ofn i chi gael eich llosgi. Mae bylbiau arbenigol ar gael yn y rhan fwyaf o siopau offer ffotograffig, ac nid ydynt yn gostus. Bydd rhaid i chi gael ffitiadau lamp arbennig ar gyfer y bylbiau hyn - maent yn mynd yn rhy boeth ar gyfer ffitiadau lamp arferol.
Bydd rhaid i chi hefyd ddod o hyd i ffordd i osod y goleuadau yn eu lle. Defnyddiwch beth bynnag sydd ar gael (clampiau, tâp gludiog, standiau golau, eich ffrindiau) i gadw'r golau'n llonydd ac yn disgleirio ar eich gwaith celf. Gellir prynu standiau golau digon rhad yn y rhan fwyaf o siopau offer ffotograffig.
Dewiswch ffilm da gyda'r cyflymder arafaf posibl. Mae'n ddigon hawdd cynhyrchu printiau o sleidiau.
Mae ffilm print wedi ei gynhyrchu ar gyfer golau dydd, felly mae fwyaf effeithiol yn yr awyr agored, gyda golau fflach, neu fylbiau twngsten sy'n cydbwyso golau dydd. Gellir cynhyrchu sleidiau o brintiau, ond nid yw'r ansawdd gystal a gall fod braidd yn gostus.
Y ffordd rwyddaf o dynnu llun yw rhoi'r gwaith celf ar lawr neu ei grogi ar wal.
Os yn bosibl, tynnwch y gwaith o'i ffrâm a cheisiwch ofalu nad oes gwydr o'i flaen (gall y camera ddangos adlewyrchiadau yn y gwydr).
Gwnewch yn siwr bod y gwaith yn "sgwâr" gyda'r camera, h.y. dylai lens y camera fod yn gyfochrog â'r gwaith a bod y camera wedi'i anelu at y canol. Mae'n bwysig bod y camera'n berpendicwlar i'r gwaith, ac nad yw'n pwyntio i fyny nac i lawr.
Sicrhewch fod y goleuo'n gyson trwy osod y goleuadau i anelu ar ongl o 30 - 45 gradd ar bob ochr o'r gwaith, gan anelu pob golau at ochr gyferbyn y gwaith. Edrychwch yn ofalus i sicrhau nad oes adlewyrchiadau a bod y golau'n gyson ar y darn gwaith. Efallai y bydd angen i chi symud ychydig ar y goleuadau a/neu'r onglau. Os yw'r gwaith celf yn un mawr iawn, efallai y bydd angen rhagor o oleuadau i daflu golau oddi ar wyneb uwch ei ben.
Edrych i lawr
Edrych o'r blaen
Dylai'r gwaith lenwi'r cyfan o ffrâm y llun. Defnyddiwch lens a fydd yn eich galluogi i fynd yn ddigon agos heb aflunio'r ddelwedd. Os oes rhaid cael cefndir, defnyddiwch gefndir gwyn neu olau fel wal yn unig. Bydd y lluniau neu sleidiau ar eu gorau pan fyddwch yn gweld y gwaith a dim arall.
Cofiwch ffocysu!
Penderfynwch ar ddeunydd a lliw'r cefndir. Bydd ar ei orau os bydd yn blaen a chrwm ac mewn lliw niwtral. Mae llwyd a gwyn yn effeithiol. Byddwch yn ofalus os byddwch yn dewis lliw llachar - bydd golau, pan gaiff ei adlewyrchu, yn mynd â'r lliw hwnnw gydag ef a bydd yn newid lliw eich gwaith celf. Gallwch ddefnyddio papur, ffabrig fel lliain bwrdd, neu gynfasau gwely, neu byddai wal yn unig yn gwneud y tro. Y nod yw arddangos y gwaith heb ddim i dynnu sylw'r gwyliwr.
Bydd llun o waith 3D yn edrych yn dda pan fydd yn bwrw cysgod ar y cefndir. Os defnyddir cefndir du bydd unrhyw gysgod a grëir yn cael ei golli.
Os yw'n waith 3D bach, gosodwch y darn celf ar fwrdd neu stôl. Gellir gadael gwaith mawr ar y llawr.
Penderfynwch pa ochr(au) o'ch gwaith yr ydych am ei ddangos yn y llun.
Rhowch y gwaith celf ar y defnydd cefndir a gosodwch y camera yn ei le.
Defnyddiwch ddau olau. Rhowch y prif olau ychydig droedfeddi i'r chwith o'i flaen ac yn uwch na'r gwaith. Rhowch yr ail olau ar yr ochr dde, eto'n uwch na'r gwaith a dwywaith gyn belled o'r gwaith â'r prif olau.
Mae'n rhaid cael gwared ar bob golau arall sy'n dod o oleuadau nenfwd, ffenestri agored ayb.
Gallwch hefyd ychwanegu trydydd golau a dylai hwn fod y tu ôl i'r gwaith, uwch ei ben ac ychydig i'r dde neu chwith. Dylai ei bellter oddi wrth y gwaith fod yn debyg i'r ail olau ond gall fod ychydig yn nes. Arbrofwch gyda gwahanol bellteroedd i gael effeithiau gwahanol.