Neidio i'r prif destunn
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Polisi Prisiau Gostyngol ar gyfer pobl anabl

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru'n argymell y dylid cynnig gostyngiad yn yr amgylchiadau canlynol:

1. Os bydd canolfan yn gofyn bod person anabl yn cael ei dywys gan berson arall.

Mae rhai canolfannau'n gofyn bod defnyddiwr cadair olwyn neu berson dall yn cael eu tywys gan berson arall oherwydd "rheoliadau tân". Mewn achos o'r fath, nid oes gan y person anabl y dewis o fynychu ar ei ben ei hun, felly dylai'r tocyn i'r person arall fod am ddim, beth bynnag fo'r consesiynau eraill sydd ar gael i'r person anabl (gweler yr enghreifftiau isod)

2. Os bydd y dewis o seddi neu'r llwybr wedi'u cyfyngu (mewn oriel neu wyl)

Os bydd y dewis o seddi neu'r llwybr wedi'u cyfyngu, dylid cynnig gostyngiad. Ni ddylai'r prisiau fod yn uwch na'r tocynnau rhataf sydd ar gael. Dylid cynnig y gostyngiad hwn i dywysydd hefyd.

3. Pan fydd mynediad yn bosibl o rannau penodol o'r ganolfan/awditoriwm yn unig

Enghreifftiau

a) Bydd angen i bobl fyddar eistedd yn y rhesi blaen er mwyn gweld lladmerydd iaith arwyddion, neu efallai y bydd rhaid iddynt eistedd mewn rhan arbennig o'r awditoriwm i ddefnyddio dolen sain neu i weld capsiynau mewn cynhyrchiad, neu isdeitlau ffilm. Dylid cynnig y gostyngiad hwn i dywysydd hefyd.

b) Efallai y bydd rhaid i bobl fyddar eistedd mewn man lle gellir defnyddio cyrn clust isgoch er mwyn manteisio ar gyfleusterau sain sy'n disgrifio'r hyn sy'n digwydd ar y llwyfan.

Yn aml codir y prisiau uchaf am y seddi hyn, ond yn yr achosion hyn, dylid codi'r prisiau rhataf. Dylid cynnig y gostyngiad hwn i dywysydd hefyd.

4. Pan fydd rhaid i bobl anabl brynu tocyn drutach i'w galluogi i weld perfformiad/mwynhau cynnyrch ayb, er nad oes a wnelo hyn ag unrhyw gyfleuster mynediad penodol.

Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd rhaid i bobl trwm eu clyw a phobl â nam ar eu golwg eistedd yn agos at flaen y llwyfan er mwyn medru clywed, darllen gwefusau neu weld yn well. Dylid cynnig gostyngiadau mewn sefyllfaoedd o'r fath, a dylid eu cynnig i dywysydd hefyd.

5. Pan na fydd yn bosibl i berson anabl fynychu heb dywysydd.

Er enghraifft, ni fydd rhai pobl ag anableddau dysgu'n gallu mynychu heb eu Gweithiwr Cefnogi. Ni ddylid codi tâl ar y Gweithiwr Cefnogi.

6. Pan gynigir gostyngiadau i bobl hwn, myfyrwyr a phobl ddi-waith, dylid eu cynnig i bobl anabl hefyd.

Y ganolfan ddylai benderfynu a oes angen prawf statws ai peidio. Dylai polisi'r ganolfan ar ostyngiadau fod yn eglur ac a fydd gostyngiadau'n cael eu cynnig os nad oes gan berson anabl brawf statws.

Polisïau, gweithdrefnau ac arferion

Dylai pob rheolwr, staff y swyddfa docynnau a blaen y ty fod yn gyfarwydd â pholisïau, gweithdrefnau ac arferion y ganolfan ar ostyngiadau. Mae'n hollbwysig bod pawb yn gwybod amdanynt, a bod y staff yn gwybod pwy yw'r person cyfrifol mewn sefyllfaoedd penodol.

Er enghraifft, bydd angen i staff wybod sut i ymateb mewn sefyllfa pan fydd person anabl yn gofyn am ostyngiad ond sydd heb brawf statws os oes ei angen.

Os nad yw polisïau, gweithdrefnau ac arferion yn cael eu diwygio i ymateb i faterion anabledd, mae'n bosibl y bydd mudiad yn torri gofynion y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Mae sefydliad yn torri'r gyfraith os yw'n darparu gwasanaeth sy'n gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl.

Deall materion anabledd: Dylai'r rheolwyr a staff ymrwymo i ddarparu rhaglen ddi-dor o Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd sy'n benodol i'r celfyddydau. Bydd hyn yn helpu sefydliadau i beidio gwahaniaethu'n anfwriadol yn erbyn pobl anabl, a bydd yn eu hannog i fabwysiadu arferion gorau mewn materion anabledd.

Gellir cyflogi Ymgynghorydd Anabledd i weithio gyda sefydliadau i ddatblygu polisïau.

Gall Celfyddydau Anabledd Cymru roi rhagor o wybodaeth ar Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd.

Cofiwch: dangosodd Cyfrifiad 2001 fod gan 23% o boblogaeth Cymru salwch tymor hir neu anabledd. Felly dylai polisïau anwahaniaethol a mynediad da fod yn flaenoriaeth i bawb sy'n darparu gwasanaethau.

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css