Neidio i'r prif destun
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Cyhoeddusrwydd a gwybodaeth wedi'i hargraffu

Y mwyaf hygyrch fydd eich deunydd cyhoeddusrwydd a'ch gwybodaeth, y mwyaf y bydd pobl anabl yn dod i wybod am eich digwyddiadau a'u mynychu. Codwch i'r her o gynhyrchu cyhoeddusrwydd sy'n cyfleu eich neges yn ogystal â bod yn hygyrch.

Fel canllaw cyffredinol:

Defnyddiwch

Peidiwch â defnyddio

Dylech gynnwys:

Fformatau eraill

Gwybodaeth mewn print bras

Mae hyn yn golygu unrhyw beth rhwng sans serif 16pt a 22pt fel Arial neu Tahoma (mae'r enghraifft hon mewn Arial 16pt)

22pt mewn print trwm yw'r ffont fwyaf ar gyfer testun ar bapur A4 (mae'r enghraifft hon mewn Arial 22pt)

Fel rheol gyffredinol, peidiwch â chynnwys lluniau gyda gwybodaeth mewn print bras

Gellir cynhyrchu gwybodaeth a gedwir ar brosesydd geiriau yn hawdd mewn ffont o unrhyw faint dim ond drwy bwyso botwm. Os bydd rhywun yn gofyn am brint bras, gofynnwch beth yw maint y ffont yr hoffent ei gael. Gofynnwch hefyd a ydynt am gael papur o liw penodol.

Gwybodaeth electronig

Mae'n well gan lawer o bobl anabl dderbyn gwybodaeth yn electronig yn hytrach nag wedi'i hargraffu. Mae gwybodaeth electronig yn hygyrch iawn i bobl ddall a phobl a chanddynt nam ar eu golwg neu bobl a chanddynt ddyslecsia, a allai fod yn defnyddio meddalwedd penodol ar gyfer darllen sgrîn.

Tapiau sain

Mae gwybodaeth ar dâp sain / disg yn ddewis amgen derbyniol i lawer o bobl ddall a'r rhai â nam ar eu golwg.

Mae sefydliadau i bobl ddall yn darparu gwasanaeth sy'n cyfieithu testun ysgrifenedig i dâp sain. Holwch ymlaen llaw ynghylch y costau a'r amserlen.

Braille

Nid yw Braille yn cael ei ddefnyddio mor aml â thapiau sain. Mae'n fwy tebygol o gael ei ddefnyddio gan bobl ddall a phobl â nam ar eu golwg sydd wedi dysgu Braille yn yr ysgol.

Os ydych yn ystyried darparu gwybodaeth mewn Braille, ymgynghorwch â defnyddwyr Braille i ddechrau i ganfod a yw'n briodol.

Mae sefydliadau pobl ddall yn darparu gwasanaeth sy'n cyfieithu testun sydd wedi'i argraff i Braille. Unwaith eto, holwch ymlaen llaw ynghylch y costau a'r amserlen.

Defnyddio Symbolau

Mae gan wefan Urdd yr Artistiaid Graffig ystod o symbolau mynediad y gellir eu lawrlwytho am ddim.

Mae gan wefan SPIT - Signed Performance in Theatre symbol ar gyfer perfformiad lle ceir gwasanaeth iaith arwyddion y gellir ei lawrlwytho am ddim.

Mae canllawiau Mencap ar gyfer ysgrifennu hygyrch, Am I Making Myself Clear? yn esbonio sut i ddefnyddio lluniau syml i ategu gwybodaeth ysgrifenedig. Cliciwch ar "Publications" a dewiswch "Make it Clear" yn y rhestr.

How to Use Easy Words and Pictures - ar gael i'w lawrlwytho fel pdf am ddim gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Mae CHANGE, sefydliad a gaiff ei redeg gan bobl a chanddynt anawsterau dysgu, yn cynhyrchu cyhoeddiadau yn cynnwys pecyn o symbolau y gellir ei lawrlwytho er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn fwy hygyrch. Ewch i wefan CHANGE.

Rhagor o wybodaeth

Canllawiau See It Right ar wneud gwybodaeth yn hygyrch i bobl ddall a phobl a chanddynt nam ar eu golwg - ewch i wefan RNIB.

Mae gan Gymdeithas Dyslecsia Prydain ganllawiau ar wybodaeth hygyrch. Ewch i'r "Dyslexia Style Guide" ar wefan Cymdeithas Dyslecsia Prydain.

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css