Mae'r Teipydd ar y Pryd yn teipio'r hyn a lefarir gair am air, a chaiff y testun ei arddangos ar liniadur er mwyn i'r person byddar ei ddarllen. Gellir cysylltu'r gliniadur â thaflunydd a thaflunio'r testun ar sgrîn. Weithiau gelwir Teipio ar y pryd yn Palanteip neu Stenograff.
Gellir darparu trawsysgrif 'drafft cyntaf' o'r trafodaethau, ond mae hyn yn ôl disgresiwn y Teipydd ar y Pryd unigol a gellir codi tâl ychwanegol am y gwasanaeth hwn. Os yn bosibl, gofynnwch am y trawsysgrif pan fyddwch yn archebu gwasanaet teipydd ar y pryd.
Efallai y bydd person byddar neu berson sy'n drwm ei glyw a fydd yn mynychu cyfarfod yn gofyn am wasanaeth teipio ar y pryd. Bydd gliniadur yn ddigon os mai dim ond un neu ddau o bobl fydd yn defnyddio'r cyfleuster. Bydd angen i'r teipydd ar y pryd eistedd wrth ymyl y darllenwr.
Gallai sefydliad sy'n cynllunio cynadleddau, seminarau a gweithdai mawr sydd ar agor i'r cyhoedd gynnwys gwasanaeth teipio ar y pryd er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn hygyrch i bawb. Ar gyfer digwyddiadau mwy, dylid cysylltu'r gliniadur â thaflunydd a thaflunio'r testun ar sgrîn wen, neu sgriniau plasma, o fewn cyrraedd y gynulleidfa neu'r cyfranogwyr. Yn y sefyllfa hon, bydd y teipydd ar y pryd yn eistedd ym mlaen y neuadd yn y canol neu i'r ochr ger y taflunydd neu'r cyswllt VGA.
Gallai un teipydd ar y pryd ymdopi â digwyddiad byr o hyd at ddwy awr, ond dylid cynnwys o leiaf un egwyl rhwng 5 a 10 munud o hyd.
Ar gyfer digwyddiadau hwy, bydd angen dau deipydd. Gofynnwch i'r teipydd ar y pryd unigol (naill ai'n uniongyrchol neu drwy'r asiantaeth) pan fyddwch yn archebu'r gwasanaeth p'un a fydd angen cyd-deipydd arnynt ai peidio.
Mae'r teipyddion yn darparu eu bysellfwrdd a'u gliniadur eu hunain. Efallai y bydd angen i chi ddarparu:
ac os bydd angen i'r testun gael ei arddangos ar sgrîn fawr:
Mae dau deipydd ar y pryd cymwys ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Efallai y bydd angen i chi gysylltu â theipyddion ar y pryd yn Lloegr. Cadarnhewch fod y teipyddion wedi'u cofrestru gyda'r Cyngor ar gyfer Datblygu Cyfathrebu â Phobl Fyddar (CACDP)
Bydd gan yr asiantaethau sy'n darparu dehonglwyr iaith arwyddion a gwefuslefarwyr deipyddion ar y pryd ar eu llyfrau hefyd. Dylech archebu'r gwasanaeth ymhell ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad i osgoi cael eich siomi.
Ewch i wefan The Association of Verbatim Speech to Text Reporters (AVSTTR) am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt teipyddion ar y pryd.
Ewch i wefan CACDP am gyfeirlyfr o deipyddion ar y pryd cofrestredig
Ewch i wefan The British Institute of Verbatim Reporters (BIVR) am fanylion cyswllt teipyddion ar y pryd
Cyngor Cymru ar Gyfer Pobl Fyddar (cymorth cyfathrebu). Ffôn: 01443 485 687 E-bost: wcdeaf@freenet.org.uk
Gwasanaethau Cyfathrebu RNID Cymru. Ffôn: 01792 324477, Ffôn testun: 01792 324455, Ffacs: 01792 324422, E-bost:csuneath@rnid.org.uk