Holwch y ganolfan ymlaen llaw. Efallai y bydd ganddynt daflen wybodaeth ar gyfer cwmnïau teithiol. Os nad oes un ar gael, gallai rheolwr y daith neu'r rheolwr llwyfan gadw nodiadau ar y cyfleusterau sydd ar gael.
Mae'r rhestr wirio hon yn cynnwys y rhan fwyaf o gyfleusterau mynediad a all fod ar gael. Mae'n anarferol gweld canolfan gyda'r holl gyfleusterau hyn, ond mae'r rhan fwyaf yn gallu cynnig mynediad i bobl anabl i ryw raddau. Nid yw'r rhestr yn un gyflawn; os bydd materion eraill yn codi, ychwanegwch hwy at y rhestr yn ôl y gofyn.
A oes gan y ganolfan rif y gall y cyhoedd ei ffonio i holi am fanylion ynglyn â mynediad?
A oes rhif ffacs yn cael ei hysbysebu at ddefnydd y cyhoedd?
A oes minicom (ffôn testun ar gyfer pobl fyddar) ar gael?
Beth yw polisi'r ganolfan ar brisiau gostyngol i bobl anabl?
A yw'r ganolfan yn cynhyrchu eu cyhoeddusrwydd mewn print bras neu ar dâp?
A oes cyfleusterau parcio ar gael ar gyfer ymwelwyr?
Os oes, a oes mannau parcio'n cael eu cadw ar gyfer deiliaid bathodynnau oren?
A oes rhaid trefnu i gadw lle parcio ymlaen llaw?
A yw'r brif fynedfa'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
Os nad yw, a oes mynedfa arall sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn?
Os nad yw'r fynedfa'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, a oes grisiau yno?
Faint o risiau?
A oes modd defnyddio lifft i gyrraedd y lloriau uchaf?
A oes lle i ddefnyddwyr cadair olwyn yn yr awditoriwm?
Os oes, lle i faint?
A oes lle i ffrind eistedd wrth eu hymyl?
A oes toiledau sy'n addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn?
A oes digon o le i gyn cymorth orwedd wrth ymyl eu perchnogion?
A oes rhywun a all edrych ar eu hôl yn ystod y perfformiad os bydd angen?
A oes dolen sain yn yr awditoriwm?
Neu system isgoch?
Os oes system isgoch ar gael,
A oes mynediad i ddefnyddwyr cadair olwyn i'r:-
Os nad oes mynediad i gadeiriau olwyn, a yw'r mynediad i'r mannau hyn yn wastad?
Os oes grisiau, faint, ac ymhle?
A oes modd i gyhoeddiadau fod yn weledol yn ogystal â chlywedol?
A oes system golau'n fflachio yn rhan o'r clychau a larymau?
A oes staff ar gael i gynorthwyo pobl anabl os bydd angen?
Beth yw'r drefn os bydd angen gwagio'r adeilad mewn argyfwng?
Cysylltwch â ni am ragor o gyngor a gwybodaeth ar unrhyw un o'r materion uchod.