
Gall y rhyngrwyd ddarparu mynediad i wybodaeth ar raddfa na welwyd ei bath o'r blaen. O foethusrwydd ein cartrefi gallwn bwyso cwpwl o fotymau, ac ar amrantiad rydym wedi dod o hyd i wybodaeth am yr ŵyl, wedi dewis pa berfformwyr yr ydym am eu gweld ac wedi archebu'r tocynnau. Hynod o hygyrch?
Yn anffodus, nid yw'r realiti cystal. Ym mis Ebrill 2004 comisiynodd y Comisiwn Hawliau Anabledd arolwg o sampl mawr a chynrychioliadol o wefannau a ddefnyddir gan y cyhoedd ym Mhrydain, a chanfod nad yw cymaint ag 81% o safleoedd yn cyrraedd y safonau sylfaenol o ran hygyrchedd.
Os yw gwefan yn rhan o ddarpariaeth gwasanaeth unrhyw sefydliad, caiff y gwasanaeth hwnnw ei gwmpasu gan Ran III y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd. Os y wefan ei hun yw'r prif gyfrwng ar gyfer darparu gwasanaethau, mae'n hollbwysig bod y wefan yn hygyrch. Felly dylai pob darparwr celfyddydol edrych yn fanwl ar hygyrchedd ei wefan, a sicrhau y caiff unrhyw broblem ei datrys.
Mae'r Comisiwn Hawliau Anabledd wedi gweithio gyda'r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) i ddatblygu PAS 78, dogfen sy'n amlinellu arferion da o ran comisiynu gwefannau sy'n hygyrch i bobl anabl. Gellir lawrlwytho PAS 78 o wefan y comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Mae PAS 78 hefyd ar gael i'w brynu o wefan Siop y BSI ac o Wasanaethau Cwsmeriaid yn y fformatau canlynol: print bras, hawdd ei ddarllen, sain, Braille, DAISY a Chymraeg. Ffôn: +44 (0)20 8996 9001, E-bost: cservices@bsi-global.com
Mynediad i wefannau i bobl a chanddynt anawsterau dysgu: Gwefan Mencap
Mynediad i wefannau pobl a chanddynt ddyslecsia: Canllawiau Arddull Cymdeithas Dyslecsia Prydain
Mynediad i wefannau i bobl ddall a phobl â nam ar eu golwg: RNIB Web Access Centre