Neidio i'r prif destun
Disability Arts Cymru. Celfyddydau Anabledd Cymru

Ymgynghori â phobl anabl ac ymgysylltu â hwy

Os ydych am gael pethau'n gywir ynglŷn â mynediad a chynhwysiant, yna mae cynnwys pobl anabl o'r dechrau'n hanfodol. Bydd hyn nid yn unig o gymorth mawr wrth gynllunio materion yn ymwneud â mynediad, ond gall edrych ar wasanaeth eich sefydliad o bersbectif pobl anabl ddechrau proses greadigol hollol newydd.

Un o'r pethau gorau y gallwch ei wneud yw ymgynghori â sefydliad neu grŵp sy'n cael ei arwain yn bennaf gan bobl anabl.

Gallech hefyd ofyn i gwsmeriaid rheolaidd sy'n bobl anabl a fyddai ganddynt ddiddordeb mewn bod yn rhan o ymgynghoriad.

Yn ogystal ag eistedd o amgylch y bwrdd yn trafod materion, mae ymgynghori hefyd yn golygu darganfod ffyrdd o ddatblygu cyfranogiad parhaol, er mwyn i bobl anabl allu cyfrannu'n ymarferol a chadarnhaol at ddatblygiad y sefydliad.

Pwyntiau gweithredu

Camau cynllunio

Trefnu cyfarfodydd

Rhestr wirio o bwyntiau i'w trafod yn ystod y cyfarfod

Digwyddiadau

Cymorth ar y cyd

Amser

Trafnidiaeth

Cyhoeddusrwydd

Cyfathrebu

Ar ôl yr ymgynghoriad

Cadwch mewn cysylltiad; bydd help eich cysylltiadau yn hynod werthfawr ar gyfer denu cynulleidfaoedd newydd i'ch digwyddiadau.

Darllen Pellach

Involving Disabled People - mae Llywodraeth y DU wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer Cyrff Cyhoeddus sydd â chyfrifoldeb dros Ddyletswyddau Cydraddoldeb i Bobl Anabl, ond gall yr egwyddorion gael eu defnyddio gan unrhyw sefydliad sydd eisiau cynnwys pobl anabl. Ewch i'r wefan

map o'r safle | hygyrchedd
cynllunio hygyrch i'r wę gan papergecko | xhtml | aaa | css